oedd yno). Wel, dyma Mr. Denman! Dewch i fewn. Soniwch am ac y mae o'n siwr o ymddangos. Yr oeddem just yn siarad am danoch yrwan, eisteddwch i lawr, syr."
MR. DENMAN.—"Beth wnaeth i chi siarad am dana i?"
CAPTEN TREFOR.—"Wel, deyd yr oeddwn i—ond dyma chi, Mr. Denman, Ladies, hwyrach y carech chi fynd i ystafell arall. (SUSI a MRS. TREFOR yn mynd allan. Y CAPTEN yn eistedd yn y gadair gyferbyn â MR. DENMAN, ac yn estyn 'cigar' iddo). Ie, dyna oeddwn i'n ddeyd, Mr. Denman, cyn i chi ddyfod i mewn mai campus o beth fydd eich gweld chi, sef yr unig un o'n cymdogion sydd wedi dal i gredu ym Mhwllygwynt, mai campus o beth fydd eich gweld ryw ddiwrnod yn ŵr bonheddig. Yr ydych yn haeddu hynny, Mr. Denman, mi gymra fy llw, os haeddodd neb erioed."
MR. DENMAN.—"Os na ddaw hynny yn fuan, yr wyf yn debycach o lawer o ddiweddu fy oes yn y workhouse. A oes gennych chi ryw newydd am Bwllygwynt? Fath olwg sydd acw 'rwan?"
CAPTEN TREFOR.—"Wel, 'does gen i ond yr hen stori i'w hadrodd wrthych, Mr. Denman, ac nid yr hen stori chwaith. Mae acw well golwg yrwan nag a welais i ers tro. Ac eto, mae gen i ofn deyd gormod, rhag y cawn ein siomi. Mae yn well gen i bob amser ddeyd rhy fychan, na deyd gormod. Ond mi ddwedaf hyn, ac wrth gwrs, nid wyf yn cymeryd arnaf fy mod yn anffaeledig, ond can belled ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd, mae acw well golwg yrwan nag a welais i o'r blaen. Ond rhyngoch chwi a fi, fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae y Saeson yma yn rhoi y gwaith i fyny, a hynny pan ydym o fewn dim i gyrraedd y plwm. Ac fe fyddai hynny yn bechod o beth."
MR. DENMAN.—"Wyddoch chi be, Capten, bydae'r Saeson yna, fel yr ydach chi yn eu galw nhw, yn rhoi y gwaith i fyny fory, fydde hynny ddim yn ddrwg gen i mewn ffordd o siarad. Nid am nad ydw i'n credu fod yno blwm—na, mae gen i ffydd o'r dechre ym Mhwllygwynt. Ond bydaswn i'n gwybod y buasai raid i mi wario cymaint o arian, fuaswn i erioed wedi ymuno â'r cwmpeini.