Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Feddyliais i erioed y buasai raid i mi wario mwy na rhyw gant neu ddau, ond erbyn hyn y mae yn agos y cwbl sy' gen i wedi mynd, a fedr fy mhoced i ddim dal."

CAPTEN TREFOR.—"Yr wyf yn gobeithio nad ydych yn meddwl y gwnawn i eich camarwain yn fwriadol, fodd bynnag ? Ac am eich poced, wel,—yr ydym yn gwybod yn go lew am honno. Pe buasai gan Capten Trefor boced Mr. Denman, fe fuasai yn cysgu yn ilawer tawelach heno. Mae gennych dai a thiroedd, Mr. Denman, ac os rhowch i fyny eich interest yn y gwaith, chwi a edifarhewch am bob blewyn sydd ar eich pen. Mae gennyf innau shares yn y gwaith, ond cyn y rhown i fyny yrwan, mi werthwn fy nghrys oddiam fy nghefn."

MR. DENMAN.—"Y mae gennyf bob ffydd ynnoch chi, Capten. Yn wir, faswn i 'rioed wedi meddwl am gymeryd shares yn y gwaith oni bai fy mod i yn eich adnabod chi, a'n bod ni'n dau yn aelodau yn yr un capel. Na, beth bynnag a ddaw o Bwllygwynt, mi ddywedaf eich bod chi yn onest. Ond mater rhaid fydd arna i roi fyny. Waeth i mi ddeyd y gwir, yr wyf wedi mortgagio y tai a'r tiroedd agos i'w llawn werth, oddigerth y tŷ yr ydw i yn byw ynddo, a ŵyr y wraig acw ddim am hynny. Bydae hi yn gwybod, fe dore'i chalon. Fe ŵyr am y prinder arian sydd acw, a mod i wedi cario dialedd i Bwllygwynt; ac y mae hi'n rhincian, rhincian o hyd, ond bydae hi'n gwybod y cwbl, mi fydde'n rhaid i mi hel 'y mhac."

CAPTEN TREFOR.—"Mae'n ddrwg gennyf eich clywed yn siarad fel yna. Ond yr wyf yn gobeithio ac yn credu y gwelaf y dydd y byddwch yn deyd y cwbl i Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol. Ond y mae'r cwbl yn dibynnu ar a fydd gan y cwmpeini ffydd ac amynedd i fynd ymlaen."

MR. DENMAN.—"Bydae'r cwmpeini yn rhoi y gwaith i fyny, be nae chi, Capten, ai mynd i fyw ar eich arian ?

CAPTEN TREFOR.—"Nid yn hollol felly, Mr. Denman, ond yn hytrach ail gychwyn."

MR. DENMAN.—"Pwllygwynt?"

CAPTEN TREFOR.—"Ie, Pwllygwynt, pe buasai gennyf ddigon o arian. Pe buasai gen i ddigon o foddion, mi fuaswn yn prynnu Pwllygwynt. Ond gan nad oes gen i