ddim quite ddigon i hynny,—yn wir, ddim yn agos digon,—mi fuaswn yn cychwyn mewn lle arall. Mae fy llygad ar y lle ers tro. Eithaf peth, Mr. Denman, ydyw bod yn barod ar gyfer y gwaethaf. A ngwaith iy ca'i o fod, gydag ychydig ffryndiau, ac ni cha'i y Saeson yna roi eu bŷs yn y brywes hwnnw. Gwaith a fyddai i ddod i dalu yn fuan. Ond fe fydd rhaid i mi gael ychydig ffryndiau o gwmpas cartre' i gymeryd shares. Un o'r ffryndiau hynny fydd Mr. Denman."
MR. DENMAN.—"Lle mae eich llygad arno, Capten, mod i mor hy' a gofyn?"
CAPTEN TREFOR.—"Wel, yr ydym yn hen ffryndiau, a mi wn na wnewch chwi ddim gadael i'r peth fynd ymhellach ar hyn o bryd, beth bynnag. Cofiwch nad yrwan y mae y lle wedi dyfod i fy meddwl i gyntaf; na! mae o yn fy meddwl i ers blynyddoedd,—yr wyf wedi breuddwydio llawer yn ei gylch. O ran y meddwl, y mae'r peth yn hen,—mae'r bydle'n fywiog, mae'r engine yn chwyrnu, mae'r troliau yn cario'r plwm i Lanerchymor, ac eto mae'r borfa yn lâs ar wyneb y tir! Yr ydych yn deall fy meddwl, Mr. Denman? Yn y meddwl y mae'r gwaith yn hen, ond mewn reality, y mae y dywarchen heb ei thorri. Yn fy meddwl,—(yn cau ei lygaid am ychydig), yr wyf yn gweld y cwbl ar lawn waith,—mae yn hen, hen, yn fy meddwl i, ond yn newydd i'r byd, yn wir, yn anwybyddus, yn ddirgelwch hollol!"
MR. DENMAN.—"Hwyrach fy mod yn rhy hy', ond dydach chi ddim wedi deyd eto ".
CAPTEN TREFOR.—"Mr. Denman, peidiwch ag arfer geiriau fel yna, 'does dim posib i chi fod yn rhy hy' arnaf. Fel y dywedais, yr ydym yn hen ffryndiau, a 'does gen i ddim eisieu cadw dim oddiwrthych,—dim, dim. Ac os oes rhywun i fod yn gyfrannog a mi yn y fentar hon, Mr. Denman ydyw hwnnw."
MR. DENMAN.—"Yr wyf yn bur ddiolchgar, Capten, ond y mae arnaf ofn nad allaf fi fentro dim yn ychwaneg. Nid oes gennyf ddeg punt arall i'w gwario heb wneud cam â fy nheulu."
CAPTEN TREFOR.—"Yr ystyriaeth yna yn bennaf, er nad yn hollol, sydd yn fy ngorfodi i'ch gosod ar yr un tir a mi