Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GOLYGFA 2.— CEGIN SIOP Y GROES.

(MARGED y forwyn wedi paratoi super. ENOC HUWS yn dod i mewn o'r siop, yn gafael yn y gadair ac yn eistedd wrth y bwrdd).

ENOC HUWS.—"Marged, mae'n biti o beth fod fy 'stumog i mor ddrwg, achos yr ydach chi wedi gwneud swper splendid, fase dim posib iddo fod yn well. Bydaswn i'n gwybod y basech chi'n gwneud swper mor dda, mi faswn i wedi gwadd rhwfun yma; ond y mae gen i ofn y bydd raid i mi fynd at y doctor i gael rhywbeth at fy 'stumog."

MARGED.—"Ydi, mae'r swper yn suffisiant i un dyn byw, a mi na i dipyn o dê wermod i chi, mistar, achos i be 'rewch chi at y doctor pan fedra i neud cystal ffisig ag yntau a gwell?"

(ENOC HUWS, ar ol ymgeisio, yn meth methu a bwyta; yn aros yn llonydd am ennyd, â golwg ddigalon yn edrych i'r tân. MARGED wedi syrthio i gysgu yn y gadair freichiau. ENOC HUWS yn codi ar ei draed, yn mynd yn wyliadwrus ac yn edrych yng ngwyneb MARGED, er gweld os oedd yn cysgu, ac wedi cael sicrwydd ei bod, gwena, aiff yn ol i'w gadair, estyna ei bibell oddiar y "mantlepiece," ac wedi ei thanio, eistedda drachefn, a chan amneidio a'i law at MARGED).

ENOC HUWS.—"All right, Jezebel! Ond y mae byw fel hyn yn humbug perffaith. Dyma fi wedi bod wrthi fel black drwy'r dydd, ac i ba beth? Mae pob gwas sy' gen i yn fwy hapus na fi. Diolch na ŵyr neb sut fyd sy' arna i. Bydae pobol yn digwydd dod i wybod, fedrwn i byth ddangos fy wyneb, mi awn i'r 'Merica, neu rywle, mi gymra fy llw. A pham y rhaid iddi fod fel hyn? 'Dydw i ddim yn dlawd,—yr ydw i'n gwneud yn well nag ambell un, a 'rydw i'n meddwl, bydawn i'n cynnyg fy hun—wel, 'rydw i'n agos yn siwr y medrwn i gael—ond waeth heb siarad! Ai nid y ffaith fy mod i'n pendroni bob nos ynghylch Miss Trefor ydi'r achos o fy holl anghysuron? Digon gwir! Ond yr wyf am roi pen ar hynny heno,— pen am byth bythoedd. Piti na faswn i yn ŵr bonheddig. Mae'i thad, fe ddywedir, yn gyfoethog, ac yn meddwl llawer o honi. Digon naturiol. Felly 'rydw innau.