Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Capten Trefor, faint o bris yr ydach chi'n roi ar Miss Susi? —— Felly, Enoc Huws ydi'r highest bidder! Ond golygwn, for the sake of argument fod hynny yn bosibl, ac hyd yn oed yn debygol, beth fyddai y canlyniad? Revolution yn fy holl amgylchiadau. Yn y lle cyntaf, fe fyddai yn rhaid troi Marged i ffwrdd,—(yn edrych at MARGED ac yn amneidio â'i law),—ac fe fyddai yn rhaid cael dau blismon i hynny, fe fyddai'n rhaid ail ffyrnisho'r tŷ hefyd, o'r top i'r gwaelod, os nad cael darn newydd ato, ac fe ai'r tipyn arian sy' gen i, a holl brofit y busnes, i gadw style i fyny. Ond, dyna ffaith sobor i'w dweyd, pe byddai hynny yn bosibl, fe gai pob ffyrling fynd am fyw gyda hi a'i galw yn Mrs. Huws ddim ond am un flwyddyn, ac os bu ffwl erioed, Enoc Huws ydi hwnnw! Ond aros di, Enoc, chei di ddim bod yn ffwl ddim yn hwy, mi rown ben ar y meddyliau gwâg yma ar ol heno. (Curo wrth y drws). Holo! pwy sy' na 'rwan? Ydi'r siop ddim wedi bod yn agored trwy'r dydd, tybed? A'r un rhai ydyn' nhw bob amser. Yr hen Fusus Bennett, neu 'rhen Murphy, mi gymra fy llw." (Rhagor o guro wrth y drws. MARGED yn deffro ac yn ymlusgo yn araf at y drws dan rwbio ei llygaid).

MARGED.—"Dowch i mewn, y ngeneth i. Mistar, (yn peswch),—O'r anwyl dirion! 'rydach chi wedi bod yn smocio yn ddigydwybod,—'rydach chi'n siwr o ladd eich hun rw ddiwrnod. Dyma lythyr oddiwrth Capten Trefor, a ma'r eneth yma isio ateb!" (Yn estyn y llythyr. ENOC HUWS, gyda llaw grynedig, yn agor y llythyr. MARGED a'r eneth yn ymddiddan â'u gilydd. ENOC HUWS yn troi ychydig o'r neilltu ac yn darllen y llythyr).

TYNYRARDD,

ANWYL SYR,
"Os nad ydyw yn ormod o'r nos, ac os nad ydych yn rhy flinedig ar ol eich gwahanol oruchwylion, ac os nad oes gennych gwmni nas gallwch yn gyfleus eu gadael, teimlwn yn ddiolchgar i chwi pe cerddech can belled ag yma, gan fod gennyf eisieu ymddiddan gair â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau. Disgwyliaf air gyda'r gennad.

Yr eiddoch yn gywir,

"RICHARD TREFOR."