Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MR. DENMAN.—"Chlywes i neb erioed yn gosod y peth yn fwy teidi. Un garw ydach chi, Capten."

CAPTEN TREFOR.—"Na, 'does dim eisieu i ddyn fod yn un garw i ddarganfod y gwirionedd yna, ac yr wyf yn mawr hyderu y bydd Mr. Huws ei hun yn brofiadol o'r peth cyn nemawr o fisoedd. Ond y mae'n bryd i ni ddod at y pwnc."

ENOC HUWS.—"Ydi, ac yr ydw i'n berffaith barod, a goreu po gyntaf y down ni i understanding efo'n gilydd."

CAPTEN TREFOR.—"Wel, yr wyf wedi ymdroi yn lled hir cyn dyfod at y pwnc."

ENOC HUWS (y naill ochr)." Gynddeiriog."

CAPTEN TREFOR.—"Ond buaswn wedi dyfod ato yn gynt oni bai wel, 'does dim eisieu son am hynny eto. Ond dyna ydyw y pwnc, Mr. Huws. Chwi a wyddoch, nid oes neb a ŵyr yn well, ac eithrio Mr. Denman a fy hunan hwyrach, fod Gwaith Pwllygwynt wedi ac yn bod yn brif gynhaliaeth y gymdogaeth y gwelodd rhagluniaeth yn dda i'ch llinynau chwi a minnau ddisgyn ynddi. Ond y tebygolrwydd ydyw y bydd diwedd buan ar Bwllygwynt, pryd y cymer le, ai ymhen mis ai ynte blwyddyn. Y mae y cwbl yn dod i hyn, Mr. Huws, i mi ei roi i chwi mewn cneuen, am nad allaf gael fy ffordd fy hun o drin y gwaith, ac fod y Saeson sydd yn byw yn Llunden yn meddwl y gwyddant hwy sut i weithio Pwllygwynt yn well nag un sydd wedi treulio mwy na hanner ei oes tan y ddaear. Y pwne yw hyn,—'does dim yn well na bod yn barod ar gyfer y gwaethaf."

ENOC. HUWS.—"Mi welaf ffordd mae'r gwynt yn chwythu 'rwan."

CAPTEN TREFOR.—"Ac yr wyf fi, nid er mwyn fy hun, meddaf,—yr wyf wedi sicrhau virgin ground, neu, mewn geiriau ereill, lle y gallwn gydag ychydig gynorthwy, agor gwaith newydd,—nid ar yr un scale, mae'n wir, a Phwllygwynt, ond gwaith, gydag ychydig gannoedd o bunnau o gôst, a ddeuai i dalu am dano ei hun mewn byrr amser. Yn awr, Mr. Huws, fe ddarfu i Mr. Denman a minnau benderfynu rhoi y cynhygiad cyntaf i chwi, oddiar yr egwyddor o nes penelin nag arddwn! Ond peidiwch addaw yn rhy fyrbwyll, cymerwch noswaith