i gysgu dros y mater, oblegid ni ddymunwn am ddim ar a welais arfer dylanwad amhriodol arnoch,—yn wir, byddai yn well gennyf i chwi wrthod, os na fedrwch ymuno â ni yn yr anturiaeth hon o wirfodd calon."
ENOC HUWS.—"Yr oeddwn yn dyfalu o'r dechreu mai gwaith mine oedd gennych, Capten Trefor, mewn golwg, ac fel y dywedais pan fydd pwnc o fusnes ar y bwrdd, yr wyf bob amser yn barod i entro i unrhyw agreement resymol,hynny yw, os ymddengys yn rhesymol ac yn debyg o droi allan yn llwyddiannus, ni byddaf yn ol o'i daclo. Ond y mae'n rhaid i'r peth ymddangos i mi yn rhesymol cyn yr ymyraf ag ef. Hwyrach pan ddown i berthynas agosach, os byth y daw i hynny, fel y dywedais o'r blaen, y bydd y fentar yn ymddangos yn oleu i minnau. Mi gymraf eich cyngor, Capten Trefor, mi gysgaf dros y mater, a chawn siarad am hyn eto. Mae'n ddrwg gennyf glywed am Bwllygwynt, ac y mae'n bwysig i mi, ac i ereill, fod rhywbeth yn cael ei ddarparu ar gyfer y gwaethaf fel y dywedasoch."
CAPTEN TREFOR.—"Mae'n dda gennyf eich clywed yn siarad fel yna, Mr. Huws. Mae yn well gennyf eich clywed yn dweyd yr ystyriwch y mater na phe buasech yn datgan eich parodrwydd i gymeryd shares cyn deall pa beth yr oeddech yn ei wneud. Pa beth a roeswn i heno pe bai Cwmpeini Pwllygwynt o'r un ysbryd ac ansawdd meddwl a chwi, Mr. Huws? Hynny ydyw, yn agored i wrando ar reswm. Ond mi adawn y mater yn y fan yna heno.
(ENOC HUWS yn rhoddi ei het am ei ben, ac yn paratoi i fynd allan. CAPTEN TREFOR yn galw). Susi, dewch i ddangos Mr. Huws allan. Nos da, Mr. Huws." (Yn ysgwyd dwylaw. SUSI yn agor y drws ac yn hebrwng ENOC HUWS allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 4.—Y LAWNT O FLAEN Y TY.
- (MISS. TREFOR ac ENOC HUWS yn cerdded ochr yn ochr).
SUSI.—"Cymerwch ofal rhag cael anwyd, Mr. Huws, a 'rydw i yn gobeithio eich bod, erbyn hyn, wedi dod atoch eich hun yn reit dda."