Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i yn gwybod y basech chi, Mr. Huws, mor gas wrtho i, chawsech chi ddyferyn o frandi, a mi gawsech farw ar y soffa, y dyn brwnt gynnoch chi. Nos dawch, Mr. Huws." (Yn rhedeg i'r ty. ENOC HUWS yn gwneud ymgais i'w dal).

ENOC HUWS.—"Yr hen jaden glyfar! A bydase hi heb 'i gloęwi hi, wn i ddim be faswn i'n fedryd ddweyd mewn atebiad iddi. (Yn cerdded yn ol a blaen am ennyd, ас yn ymddangos megis mewn penbleth). Na, dydi hi ddim mor unapproachable ag oeddwn i'n meddwl. Dydio ddim ond rhyw ffordd sydd ganddi. Wel, ond fum i'n ffwleyn! Tybed ddaru'r Capten ddallt mai am Miss Susi yr oeddwn i'n meddwl tra 'roedd o'n siarad am waith mine? Mi fu just i mi 'i henwi hi fwy nag unweth. Y fath lwe na ddaru mi ddim! Y fath joke fase'r peth! Y fath joke ydi'r peth! Be bydae rhai o'r chaps yma ddim ond cael gwynt ar y stori! Y fath wledd fyddai hi! Ac eto, dydw i ddim yn hollol dawel fy meddwl,—fedra i ddim peidio ofni fod yr hen dderyn wedi spotio mod i yn meddwl am Miss Trefor, tra 'roedd o yn son am waith mine. Ac mor debyg! Ond pwy, tu yma i'r haul, fase'n dallt at be 'roedd o'n dreifio, efo'i 'yn wir,' ac 'mewn geiriau ereill,' ac 'fel mater o ffaith?' Mae pob brawddeg ganddo cyd a blwyddyn, ac yn cym'ryd gwynt dyn yn lân. Mae un peth yn 'y mlino i'n sobor,'Peidiwch a chrio, Mr. Huws bach,' medde hi. Ymhell y bo 'nyna! Crio; dyn yn fy oed i yn crio am 'i fod o'n sâl! Dyna ddaru hi feddwl, mi wn. Dario 'nyna! Ond y felldith brandi hwnnw 'naeth i'r dagrau ddod i fy llygaid i! Bydaswn i'n marw fedrwn i mo'u stopio nhw. Wel, ond oedd o can boethed a lwmp o dân Uff, mi gymra fy llw! A hithe yn meddwl mai rhyw fabi yn crio am ei fam oeddwn i. Os lladdiff rhywbeth fi yn 'i golwg hi, y crio neiff. . . . Ymhell y bo! mi fase'n well gen i na chan punt dase'r crio yna heb hapno. Mi gymra fy llw 'i bod hi'n edrach arnai fel rhyw lwbi—labi! Ond fe fydd raid i mi gymeryd shares yn y fentar newydd, bydase'r fentar yn Jericho mi fase'n dda gen i! I be yra ii daflu fy mhres i ffwrdd ar rywbeth na wn i ddim am dano? Swindle ydi'r rhan fwyaf o'r gweithydd mines yma. Ac eto, mae'r Capten yn dad i Susi, ac yn ddyn gonest ac anrhydeddus—am—wn—i. Bydae o'n deyd mai yn