y lleuad y mae o am fentro, fe fydd raid i mi gymeryd rhyw ychydig o shares. Ond mi dreiaf fod yn wyliadwrus yn y dechre', nes cael gweld a fydd rhyw obaith i mi am Susi. Heb Susi, dim mentro; Susi, a mi fentraf yn Jupiter, byth o'r fan yma." (Yn cerdded allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 5.—TYNYRARDD,—YSTAFELL SUSI.
- (SUSI yn eistedd mewn cadair ac yn ymddangos mewn myfyr dwys).
SUSI.—"'Rydw i'n bump—ar—hugain oed, a dydi'r gwr bonheddig ddim wedi dwad eto! Ddaw o ddim bellach, ne mi fase wedi dwad cyn hyn. Hwyrach fod nhw wedi dallt, o mlaen i, fod fy nhad yn dlawd. O'r brenin anwyl! y fath syc! Sobor! Pam na fase fo'n deyd yn gynt, yn lle cadw mam a finne yn t'w'llwch? Agadeli ni gario mlaen ar hyd y blynyddoedd! Be ddeidiff pobol? a be nawn ninne? (Yn codi ar ei thraed). Wel, os tlawd yden ni, tlawd y dyle ni ymddangos, humbug ydi ymddangos a dim byd ond ymddangos. (Yn tynnu ei watch o'i llogell). Mae gen i flŷs lluchio'r watch aur yma allan drwy'r ffenest. Dim chwaneg o honoch chi,(yn eu tynnu oddiam ei garddyrnau), bracelets a gold brooch. Dydach chi ddim yn gweddu i bobol dlawd. Ac eto, yr ydach chi yn bur bropor! a dyma i chi gusan o ffarwel! (Yn eu dal yn ei llaw ac yn eu cusanu, ас уп eu gosod yn eu 'case' ar y bwrdd). Gorweddwch yn eich wadding nes y bydd yn rhaid eich gwerthu i gael bwyd! (Yn codi i fyny ac yn edrych arnynt yn y 'case'.) Y pethe bach tlws! un cusan eto,—(yn eu cusanu),— a dyna y cauad dros—eich—gwyneb! (Yn eu gosod ar y bwrdd, ac yn cau arnynt yn araf). O! yr ydw i fel 'roedd y nhad yn deyd, wedi rhoi airs i mi fy hun. Ond dim chwaneg; faswn i ddim wedi cario ymlaen bydase nhad wedi deyd yn gynt mai tlawd oedden ni. Mi wisga ffroc gotyn! Mae'ma un yn rhywle. Mae hi dipyn allan o'r ffashwn erbyn hyn ddyliwn, ond mi fedraf ei