haltro. (Yn chwilio am dani mewn bocs). Lle mae hi? Weles i moni ers gwn i pryd. Sealskin? (Yn dal i fyny siaced "Sealskin"). Wel, rhaid dy droi dithau yn bres ryw ddiwrnod, ddyliwn. Lle mae'r hen ffroc yma? Ddylies i 'rioed fod gen i gymin o ddillad! Mi fydda 'r cwsmer goreu a gafodd Mr. Lefiticus, y pawnbroker, ers blynyddoedd. Yn eno'r anwyl, ddaru mi rhoi hi i rwfun? Na, dyma hi! Wel, yr hen ffroc. (Yn canu) Should old acquaintance be forgot? Mae nhad yn leicio nghlywed i yn canu honyna, ond dim chwaneg o ganu i mi. Wyt ti'n 'y nghofio i, yr hen ffroc? 'Rwyt ti'n edrach yn go rinclyd, ond yfory mi dy rown di ar gefn cader o flaen tân, i dynnu y rhincyls o honot ti. Be ddyliet, yr hen ffroc, o gael mynd i'r capel unweth eto? 'Rwyt ti wedi dy amddifadu o foddion gras ers talwm, on'd wyt ti? (Yn codi ei llawes i fyny). Rheswm! mae 'ma le i mi fyw yn dy lewys di, a mae dy wasg di tua milltir yn rhy hir. Ond dyna, yr hen froc, lle'r wyt ti yn 'y nghuro i,—pan â i yn hen, fydd o ddim diben fy rhoi i ar gefn cader o flaen tân i dynnu'r rhincyls o 'ngwyneb i! (Yn rhoddi y ffroc yn ol yn y bocs ac yn eistedd yn y gadair). Yr idea! Ie, y nhad yn son am i mi gymeryd miner cyffredin. Na, na, byth! na, na'n dragywydd! bydawn 'dloted a Job. Be oedd y baboon gan Enoc yn feddwl wrth ddeyd mai angel oeddwn i? Oedd o'n meddwl rhywbeth? Ond dda gen i mo'r Sant,—mae o'n rhy dduwiol, yn rhy lonydd. Bydase fo'n hanner dyn, mi fase'n trio cael cusan gen i wrth y gate; ond bydase fo'n gneud hynny, mi faswn yn rhoi slap iddo yn ei wyneb. On' rois i dôs iawn i'r hen Rechabite! Mi fu agos iddo dagu! Y baboon! A finne'n deyd,—'Peidiwch a chrio, Mr. Huws bach.' Hwyrach 'y mod i'n ddrwg, ond mi fyddaf yn leicio deyd rhwbeth i flino hen lanciau,— rhwbeth, bydawn i'n medrud, a dyne waed o'u calen nhw. Ond mae Enoc yn well na miner cyffredin. Poverty has no choice bydae hi'n dwad i hynny. Mae gyno fo brês, lot, mae nhw'n deyd. Dyna un good point. Ond mae o mor hen ffash! A mae hi wedi dwad 1 hyn, Susi? Wel! wel! Fy idea i wastad oedd os na phriodwn i er mwyn arian oedd bod dros 'y mhen a nghlustie mewn cariad efo rhwfun, a thaflu fy hun drwy'r ffenest i'w freichiau dri o'r gloch y bore, a rhedeg i
ffwrdd