i briodi efo special licence! 'Does gen i ddim mynedd efo rhai sy'n priodi'n sad yn y capel, mae'n gas gen i gweld nhw. Aceto, hwyrach mai felly y bydd hi hefo finne. Efo 'miner cyffredin?' Byth bythoedd, bydae raid i mi foddi fy hun! Be oedd 'y nhad isio, tybed, efo Enoc? I sycio fo i fewn ddyliwn, 'run fath a Hugh Bryan, druan, a Mr. Denman. (Yn codi ar ei thraed). Ond y mae'n rhaid gwneud rhywbeth rhag llwgu." (Yn mynd allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 6.—TY MR. DENMAN.
- (MRS. DENMAN yn eistedd yn gwnio. Y swper ar y bwrdd yn barod, yn troi i edrych ar y cloc, ac yn mynd i'r drws i edrych os oedd DENMAN yn dyfod. DENMAN yn dyfod i mewn braidd yn llechwraidd. Yn gafael mewn newyddiadur oedd yn ymyl. Yn cynneu pibell ac yn dechreu smocio. MRS. DENMAN yn taflu golwg fygythiol iawn arno).
MRS. DENMAN.—"Wel, Denman! Denman! sut mae gynnoch chi wymed i ddwad i'r tŷ yr adeg yma ar y nos?"
MR. DENMAN (yn ddidaro).—"Oeddech chi'n disgwyl i mi ddwad heb yr un gwyneb?"
MRS. DENMAN.—"Oes gynnoch chi ddim cwilydd, mewn difri', Denman, fod yn colma hyd dai pobol dan berfedd y nos? Fyddwch chi'n gweld rhwfun arall yn gwneud hynny?"
MR. DENMAN.—"Lot."
MRS. DENMAN.—"Lot? Pwy ydyn' nhw, ysgwni? Ydyn' nhw yn rhwfun a rhyw gownt o honyn' 'u hunen?
MR. DENMAN.—"Ydyn."
MRS. DENMAN.—"Ydyn ddyliwn, rhwfun 'run fath a chi'ch hun. Ydyn' nhw yn rhwfun yn hidio rhywbeth am eu gwragedd a'u teulu?"