ACT II.
GOLYGFA.—Y TWMPATH.
- (TOMOS BARTLEY yn rhoi "polish" ar esgid oedd newydd ei gorffen. Gesyd sawdl yr esgid yn erbyn ei gylla a rhwbia hi yn egniol am ennyd. Cwyd ei ben a chan gau un llygad, deil ymyl yr esgid rhyngddo a'r ganwyll oedd yn ei ymyl. SEM LLWYD yn dyfod i fewn.)
TOMOS BARTLEY.—"Helo, Sem, lle buoch chi'n cadw, ddyn? 'Rydw i wedi bod yn y'ch disgwyl chi drw'r dydd. A chithe ddim yn gweithio, fase waeth i chi roi'ch clun i lawr yma na phendwmpian gartre. Eisteddwch i lawr, Sem, mi fydda wedi gorffen yr esgid yma mewn dau funud, ac ono mi gawn smogen a mygòm." (SEM LLWYD yn eistedd i lawr).
SEM LLWYD.—"Raid i ddyn sy'n medru darllen, er 'i fod o allan o waith, ddim pendwmpian, Tomos."
TOMOS BARTLEY.—"Twbi shwar, 'rydw i'n rhy at o feddwl fod pawb 'run fath a fi fy hun. Os na fydda i'n gweithio ne'n smocio, ne'n byta, mi fydda'n cysgu; dyna just y pedwar peth ydw i'n neud yn yr hen fyd yma."
SEM LLWYD.—"Rhw hen fyd go sâl fydde fo bydae pawb 'run fath a chi, Tomos."
TOMOS BARTLEY.—"Siampal! ac eto, 'rydw i'n reit cyfforddus, a dydw i ddim yn gweld y rheini sy'n sgolors yn rhw helynt o bethe,—'rydw i lawn cystal fy off a rhan fwya o honyn nhw, diolch i'r Brenin Mawr am hynny. Achos os ceiff dyn fwyd a diod ac iechyd, be chwaneg sy' gyno fo isio?
SEM LLWYD.—"'Rydach chi'n anghofio, Tomos, fod gan ddyn feddwl ac enaid, ac y mae isio porthi'r enaid cystal a'r corff."
TOMOS BARTLEY.—"Twbi shwar, ydach chi ddim yn meddwl 'y mod i mor ddwl a hynny, Sem? Achos i be yr yden ni'n mynd i'r capel 'blaw i gael profigwns i'r ened? Deyd yr ydw i, Sem, na feder dyn ddim byw ar ddoethineb. Achos dyma chi a finne, 'rwan, y fi yn ddyn dwl a chithe'n sgolor, ac er 'y mod i blwc yn hŷn na chi,