mi gymra fy llw y pwysa i ddau o honoch chi, Sem, er y'ch holl ddoethineb, achos 'rydach chi'n edrach mor dila, ddyn, a bydae chi'n byw ar bot past." (SEM LLWYD yn cael pangfa ofnadwy o beswch. TOMOS BARTLEY yn rhoddi heibio ei waith ac yn mynd ymlaen i ochr SEM LLWYD. Edrycha yn syn i'w lygaid).
TOMOS BARTLEY.—"Wyddoch chi be, Sem? 'Daswn i ddim yn y'ch nabod chi, a gwbod bod chi 'run fath ddeng mlynedd yn ol ag ydach chi 'rwan, faswn i'n rhoi'r un ffyrling am eich bywyd chi. Wel, ond ydach chi'n pesychu, ddyn, fel bydae chi'n mynd i farw! Cym'rwch smogen, Sem, gael i'r pwl fynd drosodd. Barbra!"
BARBARA BARTLEY.—"Be ydach chi isio, Tomos?"
TOMOS BARTLEY.—"Gwna paned o goffi i ni, a thipyn o facyn i iro tipyn ar du mewn Sem yma, ne chawn ni ddim byd o hono fo, gei di weld. (BARBARA BARTLEY yn gosod llian ar y bwrdd ac yn dyfod a'r llestri a'r bwyd i'r bwrdd). Sem, wyddoch chi pwy rôth y blwch baco ene i mi? (Yn estyn y blwch i SEM LLWYD). 'Llennwch y peth sydd ar y ceuad."
SEM LLWYD.—"Mi wela." (Yn darllen yr argraff ar y ceuad).
Presented
to
Thomas Bartley, Esq.,
By his humble admirer,
W. Bryan.
TOMOS BARTLEY.—"Pry' garw oedd y bachgen hwnnw, ys gwn i lle mae o 'rwan? Sem, 'rydw i wedi meddwl gofyn i chi gantodd o weithie, ond 'y mod i'n anghofio, pwy ddusgyfrodd baco? Ddyliwn fod chi'n gwbod, Sem?"
SEM LLWYD.—"Indigo Jones."
TOMOS BARTLEY.— "Aie! Rhw enw go od hefyd, mae fol bydae 'i hanner o'n Gymro. Ai Cymro oedd o, Sem?
SEM LLWYD.—"Ie, debyg."
TOMOS BARTLEY.—"Wel, bendith ar ei ben o, medda i! Oes gynnoch chi rhw aidi', Sem, faint o amser sy' er hynny?"
SEM LLWYD.—"Rhw aidi'? ddyliwn fod gen i, tua phymtheg cant o flynyddoedd yn ol."