Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SEM LLWYD.—"Pob parch i chi yn y'ch tych hun, Tomos, ond wyddoch chi fawr am waith mein. Hwyrach y synwch chi, Tomos, pan ddeyda i fod meinars yn amal yn gwbod i sicrwydd fod digon o blwm yn y fan a'r fan, ond na fedra nhw ddim mynd ato, ac yn amal, er y gwyddan nhw y gallan nhw fynd ato, na chan nhw mo'u ffordd eu hunen i fynd ato, gan rwrai ereill sy'n 'u rheoli nhw, a'r rhai hynny yn amal na wyddan nhw ddim mwy na chithe am waith mein. A chyda golwg ar Capten Trefor, mi ddeyda hyn, na welis i neb erioed, a 'rydw i wedi gweld llawer,—y sydd yn gystal meistr ar 'i waith. Fe ŵyr i'r dim sut i weithio gwaith mein, pe cai o 'i ffordd ei hun, a mae'r Capten a finne bob amser o'r un meddwl."

TOMOS BARTLEY.—"Mae'n well gen i, i chi fod o'r un meddwl a fo na fi. Rhyngoch chi a fi, leicies i 'rioed mo'r dyn. Nath o 'rioed ddim byd i mi, ond edrach dipyn yn sgoiwedd arna i, ond dda gen i mono, waeth gen i bydae 'i ddwy glust o'n clywed. Rhw ŵr boneddig heb 'run stâd ydw i'n 'i weld o. Mi weles ambell un o'i sort yn f'oes, dynion yn mynd ar gefn 'u ceffylau ar gôst y cwmpeini ond yn dwad i'w clogs yn y diwedd. Peth arall, leicies i 'rioed mo'r dyn yn y capel; mae o'n dwad yno fel bydae o'n gneud ffafar i'r Brenin Mawr, ac, fel bydae, y tore'r Brenin Mawr i fyny bydae o'n cadw odd'no. Dda gen i mo'r sort, Sem. Mae isio i ni gyd fod 'run fath yn y capel, a phawb i'w le ar ol mynd allan. A pham na weddie'r dyn? Dyn gwbodus a thafodog fel y fo? Ond welis i 'rioed mo'r dyn ar 'i linie, a mae hynny yn ddigon o brŵff gen i fod rhwbeth y mater efo cydwybod y dyn, achos dydio ddim yn nerfws, mi ŵyr pawb hynny. Gewch chi weld, Sem, os byddwn ni byw ac iach, y cawn ni weld y dyn ene wedi colli 'i blu."

SEM LLWYD.—"Tomos, 'rydw i'n synnu atoch chi'n siarad fel ene am ddyn parchus fel y capten,—dyn sy' wedi gwneud cymin i'r ardal yma. Be ddeuthe o honom ni 'blaw am ddynion fel Capten Trefor? Mi fasen wedi llwgu."

TOMOS BARTLEY.—"Llwgu neu beidio, Sem, 'rydw i'n mawr gredu y base'n gwlad ni yn well off o'r hanner heb rw wâg ladron fel ene sy'n byw ar foddro a thwyllo poblach ddiniwed ar hyd y blynyddoedd. Ond mi rown stop arni fan ene, Sem, ne mi awn i ffraeo. Deydwch i mi