TOMOS BARTLEY.—"A mae hi'n ffact, ynte, fod y Capten ac Enoc ar gychwyn mentar newydd?
SEM LLWYD.—"Ddeydes i ddim fod o'n ffact, Tomos. Pan mae rhwbeth yn ffact, 'does dim isio'i ddeyd o,—mae o'n eglur i bawb. Ond y mae rhw bethe nad oes neb ond y rhai sydd yn gallu gweld ymhellach na'u trwynau yn 'u gwybod nhw. Mi wyddoch hyn, Tomos, nad oes neb yn gwybod cymin o feddwl y Capten a fi. Ydach chi'n 'y nallt i, Tomos?"
TOMOS BARTLEY.—"Wel, ydw, os ydw i hefyd. Y'ch meddwl chi ydi hyn, Sem,—fod Capten Trefor o'i chwmpas hi yn trio sycio Enoc Huws i mewn i gychwyn mentar newydd?"
SEM LLWYD.—"Dim ffashwn beth, Tomos, a chymerwch ofal na ddeydwch chi wrth neb mod i'n deyd hynny."
TOMOS BARTLEY.—"Mae'n dda gen i glywed hynny, Sem, achos y mae gen i barch calon i Enoc Huws. 'Rydw i'n credu bob amser mai dyn syth a gonest ydi Enoc Huws. Mae o'n fachgen sydd wedi dwad yn 'i flaen yn ods, a hynny mewn ffordd gyfiawn. Wyddoch chi be? yr ydw i wedi prynnu dialedd o fwyd moch gan Enoc, a welis i 'rioed ddim o'i le arno. Mae nhw'n deyd i mi, Sem, y medre Enoc Huws fyw ar 'i arian pan fynne fo. A dene sy'n od,—mae o'n un o'r rhai gore yn y capel. Wn i ddim sut y mae hi hefo chi, y Sentars acw, ond efo ni, os bydd dyn yn dwad yn 'i flaen dipyn efo'r byd 'ma, welwch chi gip arno yn y capel, ond tipyn ar y Sul. Ond am Enoc, anamal mae o'n colli moddion. Gobeithio'r anwyl nad ydio ddim yn mynd i ddechreu mentro, achos er mor dda y mae o wedi gwneud, fydde'r hen Drefor fawr o dro yn lluchio'i bres o i lawr i shafft gwaith mein, na wele fo byth 'u lliw na'u llun nhw, 'run fath ag y gnath o efo pres Hugh Bryan, druan. Wyddoch chi be, Sem, 'rydw i'n cofio Hugh cystal off a neb yn y fan yma, cyn iddo fynd i grafangau yr hen Drefor."
SEM LLWYD.—"Peth garw iawn, Tomos, ydi i ddyn siarad am rwbeth allan o'i lein. 'Dydw i'n ame dim, Tomos, nad y chi ydi'r crydd gore yn y wlad yma, ac fel judge ar fochyn, mi wn na churiff neb mo honoch chi. Ond y mae gwaith mein allan o'ch lein chi, mi newch adde' hynny, Tomos?"