Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENOC HUWS.—"'Rwyf bob amser yn deyd, fel y gwyddoch chi, Marged, nad oes eisieu eich gwell fel housekeeper. Ydw i ddim wedi deyd hynny laweroedd o weithiau, Marged?

MARGED.—"Beth arall fedrech chi ddeyd?"

ENOC HUWS.—"Gwir iawn, ond dyna oeddwn i yn mynd i ddeyd, 'rydach chi wedi hintio y mod i yn hir yn gwneud rhywbeth, ac felly yr ydw i. Miwn eich bod yn teimlo'n unig yn yr hen dŷ yma ar ben eich hun, yn enwedig ers pan ydw i wedi dechreu mynd i Dynyrardd, ac yn aros allan yn hwyr. Nid da bod dyn ei hunan, medde'r Beibl, ac nid da bod merch ei hunan chwaith. Ond pa help sy' gen i am hynny? Mi wn eich bod chi wedi blino yn disgwyl i mi briodi. Ond y gwir am dana i ydi hyn, waeth i mi siarad yn blaen,—dydw i ddim wedi son am hyn wrth neb arall,—mae'n digwydd weithiau i ddyn fod am flynyddoedd cyn llwyddo yn ei gais, a'r gwir ydyw,—'newch chi ddim sôn am y peth wrth neb, newch chi, Marged?"

MARGED." Nana, soniais i air wrth neb erioed."

ENOC HUWS.—"Wel, y gwir ydyw, 'dydw i damed nes efo Miss Trefor heddyw nag oeddwn i yn y cychwyn. Mae hi yn eneth anhawdd iawn i'w hennill. Yr wyf, mi wnaf addef, yn ei charu yn f——. (MARGED yn rhoddi sgrech anaearol, ac yn syrthio mewn llewyg. ENOC HUWS yn ceisio ei dal, ac yn yr ymdrech, MARGED yn ei daro yn ei lygad gan roddi iddo bâr o lygaid duon. ENOC HUWS yn rhuthro allan ac yn gweld y plismon, yn gwaeddi),—Mr. Jones, dowch i mewn ar unwaith, Mr. Jones bach."

JONES Y PLISMON (yn dyfod i mewn yn araf a digyffro).—"Ве ydi'r helynt, Mr. Huws, beth ydi'r gwaeddi sydd yn eich tŷ chi?"

ENOC HUWS.—"Ond Marged yma sy' mewn ffit. Dowch ymlaen, dowch ymlaen ar unwaith." (JONES Y PLISMON yn cerdded ymlaen yn hamddenol a throedtrwm).

JONES Y PLISMON (yn edrych ar MARGED ac yna ar ENOC HUWS).—"Mae'n ymddangos, Mr. Huws, mai chi sydd wedi cael y gwaethaf yn yr ysgarmes. (MARGED yn neidio ar ei thraed cyn i ENOC HUWS ateb. Yn edrych yn ffyrnig ar ENOC HUWS).