MARGED.—"Wel, y dyn melldigedig! be yn y byd mawr oeddach chi'n feddwl wrth roi i mi yr holl bresantau, heblaw gneud ffwl o hono i? Ac i be y baswn i'n gwrthod codiad yn 'y nghyflog 'blaw fod chi wedi cystal a deyd mai fi fase'ch gwraig chi? Peidiwch a meddwl y cewch chi droi yn eich tresi fel ene, mi wna i chi sticio at eich gair. Ac edliw Boaz y conductor i mi, neiff nene mo'r tro, Mr. Huws. Mi wn pan oeddwn i'n perthyn i'w gôr o, i fod o wedi meddwl am dana i, ond drychis i 'rioed arno fo, a faswn i ddim yn edrych arnoch chwithau, 'blaw mod i'n dechre mynd i dipyn o oed, achos yr ydw i wedi gwrthod y'ch gwell chi, syr, gantoedd o weithiau. A deyd yn 'y ngwymed i y'ch bod chi'n caru yr hen lyngeren ene o Dynyrardd. Y ffifflen falch, ddi-ddaioni! Mi ddeyda iddi pwy a be ydi hi pan wela i hi nesa, a mi wna! A mi geiff glywed ffasiwn un ydach chithe hefyd, y dyn twyllodrus gynnoch chi! Y chi'n galw'ch hun yn grefyddwr? Crefyddwr braf yn wir, pan fedrech chi dwyllo geneth 'myddifad ddigartre! Ond rhoswch chi dipyn bach! mi geiff pawb wybod y'ch hanes chi, a mi gewch dalu'n ddrud am hyn. Os na sefwch chi at eich gair, mi fynna'ch torri chi allan o'r seiat, a mi'ch gwna chi can dloted a Job, na fydd gynnoch chi 'run crys i roi am y'ch cefn—a mi wna—cyn y bydda i wedi darfod efo chi, y dyn drwg dau wymedog gynnoch chi."
ENOC HUWS.—"Marged, mi fydde'n well gen i i chwi blannu y gyllell yna,—(yn pwyntio at y gyllell fara ar y bwrdd),— yn 'y nghalon i na gwrando un gair amharchus am Miss Trefor. Deydwch y peth a fynnoch am dana i,—neu trewch fi yn fy mhen â'r procar yna os leiciwch, ond peidiwch a deyd yr un gair,—yr un sill am Miss Trefor. Y hi ydi'r eneth oreu a phrydferthaf yn y byd, mi gymra fy llw! Mae ei henw yn rhy bur i'ch anadl llygredig chi ei swnio, a difai gwaith i chi a fyddai glanhau ei hesgidiau. A son y mod i wedi gwneud ffwl o honoch chi. 'Drychwch yma, gwrandewch be 'rydw i'n ddeyd wrtho'ch chi, bydase neb ond y fia chithe ac un baboon yn y byd, ac i mi orfod priodi un o honoch, fe gawsech chi, Marged, fod yn hen ferch! Dydw i'n hidio'r un daten am danoch chi; a dalltwch, dydw i ddim am ddiodde dim chwaneg o'ch tafod drwg chi, a fe fydd raid i chi hel y'ch