pac oddiyma ar unwaith!" (MARGED wedi ei syfrdanu gan eofndra ENOC HUWS. Yn cael ail ymosodiad o'r "hysteria." Ni chymer ENOC HUWS un sylw o honi. Aiff i'r gwely).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 2.— YR HEOL.
ENOC HUWS (yn cerdded yn ol a blaen o flaen y ty. JONES Y PLISMON yn dyfod tuag ato).—"Bore da, Mr. Jones."
JONES Y PLISMON.—"Oeddech chi'n galw, Mr. Huws?"
ENOC HUWS.—"Nac oeddwn, ond gadewch i ni gael ymgom fach."
JONES Y PLISMON.—"Maddeuwch fy nghamgymeriad, mi feddyliais eich bod yn fy ngalw, a'ch bod am siarad â fi am yr helynt neithiwr."
ENOC HUWS.—"Yr oedd hynny yn ddigon naturiol. Ddaru chi son am yr helynt wrth rywun, Mr. Jones?"
JONES Y PLISMON.—"Dim peryg, Mr. Huws, neiff hi mo'r tro i blismon son am bopeth y mae yn ei weld ac yn ei glywed yma ac acw; na, dim peryg."
ENOC HUWS.—"Ddaru chi ddeyd dim wrth eich gwraig?"
JONES Y PLISMON.—"Wrth fy ngwraig, Mr. Huws, ha, ha, ha, na, fydda i byth yn deyd dim wrth unrhyw wraig, ond pan na fyddaf eisieu talu i'r Town Crier."
ENOC HUWS.—"Y mae'n dda gen i glywed hynny, ond yr wyf yn hynod anffortunus."
JONES Y PLISMON.—"Peidiwch blino dim ynghylch y peth, dydio ddim ond common case, Mr. Huws. Chwi synech pe dywedwn i wrthych y cwbl a wn i am bethau sydd yn digwydd mewn teuluoedd respectable, na ŵyr y byd ddim am danynt. Mi fyddaf bob amser yn dweyd na ddylai yr un dyn sydd mewn busnes, ac yn enwedig os bydd yn cadw tŷ, fod heb briodi. Y natur ddynol ydyw y natur ddynol dros yr holl fyd, syr."