MARGED.—"Be wn i be'di hynny?"
JONES Y PLISMON.—"Dydw i ddim yn mynd i gyfieithu i chi. Mi gewch ddyn i gyfieithu i chi pan ewch chi o flaen gŵr y plas. Atebwch fi. Beth yw eich oed?"
MARGED (yn anewyllysgar)." 'Rydw i'n bymtheg ar hugain."
JONES Y PLISMON.—"A'r rest. Deydwch y gwir, Marged Parri. Onid ydych yn bump a deugain? (Dim ateb oddiwrth MARGED). Very good. (Yn ysgrifennu ac yn siarad). I—Marged— Parry—aged—forty—five—years last-birthday. Purion. Yrwan, Marged Parri, gwrandewch arna i. Wedi gweld a chlywed yr hyn gymerodd le yn y tŷ hwn neithiwr rhwng unarddeg a hanner nos, fy nyledswydd fel Plismon oedd chwilio i mewn i'r mater, gan ei fod, yn ol cyfraith Prydain Fawr a'r Iwerddon yn Breach of Public Peace. Yn awr, wedi i mi gael ychydig eiriau gyda chi, Marged Parri, mi fyddwn yn barod i ddwyn yr holl achos o flaen Gŵr y Plas yn y County Hall. Ond i ddechreu, eisteddwch i lawr, Marged Parri, achos mi fydd raid i chi sefyll mwy na digon pan ewch i'r Hall. Yr wyf yn deall eich bod yng ngwasanaeth Mr. Huws, Grocer, Siop y Groes, ers rhai blynyddoedd. Yn ystod y tymor hwnnw, a gawsoch chi ryw gamdro gan Mr. Huws. Gofalwch sut yr atebwch?"
MARGED.—"Ddeydais i 'rioed mod i wedi cael cam dro gan Mr. Huws."
JONES Y PLISMON.—"Purion. Ond gadewch i mi ei roi i lawr mewn ysgrifen. (Yn ysgrifennu ac yn brygawthan rhywbeth yn Saesneg). Yna, be gwtrin oedd eich meddwl chi wrth alw Mr. Huws yn fy nghlywedigaeth i neithiwr yn ddyn drwg, melldigedig? Mae eich case wedi ei benderfynu yn barod,—yr ydych yn euog o defamation of character, cyfraith a wnaed yn amser George the Fourth, a'r gosb am ei thorri ydyw dwy flynedd o garchar gyda llafur caled. Yr ydych hefyd wedi rhyfygu meddwl, ac nid yn unig meddwl, ond cystal a dweyd, fod Mr. Huws a'i lygaid arnoch i wneud gwraig o honoch. Yr idea. Hen wrach aflawen, ddiolwg, fel y chi yn meiddio meddwl,—yn meiddio dychmygu, fod gŵr bonheddig fel Mr. Huws, gŵr ieuanc cefnog, hardd, respectable, yr idea! fod gŵr felly yn meddwl am danoch chi! Mae'n rhaid eich bod wedi glân ddrysu, ddynes.