Mae eich meistr yn gwybod y gallai eich rhoi yn y jail, a hynny dan Act of Toleration for the High Court of Chancery. Ond y mae Mr. Huws yn feistr tyner, nid yw yn dymuno eich rhoi yn y carchar, a fy nghyngor i ydyw eich rhoi yn Seilam Dinbych. Yn awr, Marged Parri, ydych chi yn barod i ofyn am faddeuant Mr. Huws? Cofiwch y bydd yn rhaid i chi fod mewn un o dri lle, yn Siop y Groes, yn eneth edifeiriol, neu yn y jail, neu yn seilam Dinbych. Ym mha un o'r tri yr ydach chi am fod, Marged Parri?
MARGED.—"Well gen i fod yma, a 'dwy'n siwr na neiff Mr. Huws mo ngyrru i ffwrdd."
JONES Y PLISMON.—"Purion, ond rhaid yw gwneud cytundeb. (Yn agor y drws ac yn galw. Dowch i mewn, Mr. Huws. (ENOC HUWS yn dod i mewn yn llipa a chrynedig). Yn awr, Mr. Huws, yr wyf wedi egluro y gyfraith i Marged Parri,—cyfraith Prydain Fawr a'r Iwerddon, mewn perthynas a'r helynt a all ddigwydd mewn tŷ o fusnes fel eich tŷ chwi. Mae Marged Parri yn gwybod erbyn hyn lle byddai hi yr adeg yma fory, oni bai eich bod chi yn ddyn trugarog. Ac y mae yn edifarhau am ei throsedd, ac yn addaw seinio cytundeb y bydd, o hyn allan, yn ufudd i'ch gorchymyn. A ydach chi, Mr. Huws, yn teimlo y gellwch edrych dros ben yr insult, y cam yr ydach wedi ei gael oddiar law un sydd wedi derbyn cymaint o'ch caredigrwydd?"
ENOC HUWS.—"Yr wyf yn meddwl y medraf."
JONES Y PLISMON.—"Yr ydych yn un o fil, syr. Mi welais rai dwsinau yn cael eu rhoi yn y jail am ddwy flynedd am drosedd llai. Yn awr, Marged Parri, a ydach chi'n edifarhau, ac yn gofyn maddeuant Mr. Huws am—wel, am beth sydd yn rhy atgas i'w enwi? (Aros am ateb). Mae'n rhaid i mi gael ateb, Marged Parri, neu wneud fy nyledswydd." (Yn codi ar ei draed ac yn gafael yn yr "handcuffs ").
ENOC HUWS.—"Mr. Jones."
JONES Y PLISMON.—"Mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd, Mr. Huws. Os nad yw Marged Parri yn barod i ofyn eich maddeuant, ac addaw byhafio ei hun, 'does dim ond jail neu seilam Dimbech i fod. Be ydach chi'n ddeyd Marged Parri? Un gair am dani."