Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JONES Y PLISMON.—"Yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich gosod ar dir diogel unwaith eto. Bydd eich cysur dyfodol yn dibynnu'n hollol arnoch chi eich hun. Mae hi mor ignorant a meipen, ac ar ei hignorance y daru i mi weithio,—dyna oedd yr idea. Yn awr, Mr. Huws, mi gymra fy llw, syr, bydae chi'n troi yn dipyn o deirant am wythnos, y bydde'r hen wenhwyfar fel oen i chi. Bloeddiwch dipyn arni 'rwan ac yn y man, a gwnewch iddi wneud pethau nad oes angen am eu gwneud, just i ddangos mai chi ydi'r mistar. Oni bai eich bod yn grefyddwr, mi faswn yn eich annog i roi ambell i regfa iddi nes bydd hi'n dawnsio."

ENOC HUWS.—"'Rydach chi'n deyd reit wir, Mr. Jones, ac mae'n rhaid i mi dreio, er y bydd yn anodd, bod yn fwy o feistr."

JONES Y PLISMON.—"Mi ddof i mewn 'rwan ac yn y man, megis, i weld ydi popeth yn mynd ymlaen yn iawn. Mi cadwiff hynny hi danodd—— (KIT, morwyn Tynyrardd, yn dyfod ymlaen a nodyn yn ei llaw, yn ei estyn i ENOC HUWS, yntau yn ei ddarllen ac yn ymddangos mewn penbleth).

ENOC HUWS.—"Wel, dyma hi eto!"

JONES Y PLISMON.—"Beth sydd yrwan, Mr. Huws? Ychwaneg o brofedigaethau?"

ENOC HUWS.—"Ie, gwahoddiad oddiwrth Miss Trefor i fynd yno heno i swper, i gyfarfod ein gweinidog, a sut y medra i fynd a dau lygad du gen i? Yr ydw i'n anlwcus,—fu neb erioed mor anlwcus."

JONES Y PLISMON.—"Fe ellwch fynd yn reit hawdd. A oes genoch chi bîff heb ei gwcio yn y tŷ?"

ENOC HUWS.—"Oes, 'rwyf yn meddwl."

JONES Y PLISMON.—"O'r gore. Mi wn na ddaru i chi gysgu fawr neithiwr. Wedi cael brecwast, torrwch ddau sleis o bîff cul, a rhowch un ar bob llygad, yna ewch i'ch gwely hyd ddau o'r gloch, ac os medrwch gysgu, gore oll. Erbyn yr amser bydd eisieu i chi fynd i Dynyrardd, bydd y cleisiau dan eich llygaid wedi diflannu, a mi fyddwch yn all right. Rhag gwastraffu, fe wnaiff y ddau sleis burion cinio i'r gath wedyn."