Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ACT IV.

GOLYGFA 1.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.

(CAPTEN TREFOR, MR. DENMAN, a'r PARCHEDIG OBEDIAH SIMON yn eistedd ac yn ymgomio a'u gilydd. Curo wrth y drws).

KIT (y forwyn, yn dyfod i fewn).—"Y mae Sem Llwyd wrth y drws, Capten, yn gofyn am gael eich gweld chi."

CAPTEN TREFOR.—"Dywedwch wrtho am ddyfod i mewn, Kit."

SEM LLWYD (yn dyfod i fewn yn ei ddillad gwaith, a golwg gyffrous arno, gan ddal telpyn o blwm yn ei law).—"Plwm o'r diwedd, syr, yr ydym wedi taro ar faen yng Nghoed Madog heno!"

MR. DENMAN.—"Hwre, Coed Madog."

CAPTEN TREFOR.—"Mi wyddwn ei fod gerllaw. Eisteddwch i lawr, Sem."

(Curo wrth y drws. KIT yn mynd i edrych pwy sydd yno. ENOC HUWS yn dyfod i fewn).

KIT.—"Wel, Mr. Huws, lle 'dach chi wedi bod tan 'rwan? Mae Miss Trefor yn gofyn o hyd os ydach chi ddim wedi dwad."

(Pob un ond SEM LLWYD yn codi i ysgwyd llaw).

CAPTEN TREFOR.—"Mi wranta, Mr. Huws, eich bod chi yn canfod ein bod dipyn yn llawen yma heno, ac nid ydym felly heb reswm, ac mi wn, pan glywch y rheswm, y byddwch chwithau yn cyd——."

SUSI.—"O, tada, yr ydach yn hir yn deyd y newydd wrth Mr. Huws."

CAPTEN TREFOR.—"Susi, dydw i ddim wedi byw i'r oedran yma, tybed, heb wybod sut i siarad a sut i ymddwyn yng nghwmni boneddigion. Er y byddaf yn hoffi mynd o gwmpas pethau yn fy ffordd fy hun, mi dorraf fy stori yn ferr,—mae gennym newydd da, Mr. Huws, mae Sem Llwyd wedi dod a newydd i ni gwerth ei glywed, maent wedi taro ar faen yng Nghoed Madog!" (Susi yn mynd allan).

ENOC HUWS.—"Beth, wedi dod i blwm yn barod?"