Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SEM LLWYD.—"Wn i beth ddaethai o honom ni 'blaw am Goed Madog."

CAPTEN TREFOR.—"Digon gwir. Ond beth yw eich barn chi, Sem, a beth ydi barn y dynion am y lle?

SEM LLWYD.—"Wel, syr, mae gan y dynion, ac y mae gen innau ffydd, y cawn ni blwm yno ryw ddiwrnod."

CAPTEN TREFOR.—"Gweddiwch am i'ch ffydd droi yn olwg, a'r olwg yn fwynhad. Mi ddof i lawr acw bore fory, Sem, os byddaf byw ac iach. A 'rwan, rhaid i mi fynd at y cyfeillion yma. Peidiwch a chodi, Sem, mi ddwedaf wrth Kit am ddwad a pheint o gwrw i chi a thipyn o fara a chaws." (Yn mynd allan).

SEM LLWYD.—"Thanciw, syr."

[Y LLEN YN DISGYN].

GOLYGFA 2.—Y LAWNT O FLAEN Y TY.

(ENOC HUWS a Susi yn cerdded ochr yn ochr. ENOC HUWS a'i gôt fawr am dano a'i ffon yn ei law).

ENOC HUWS.—"Nid wyf yn meddwl, Miss Trefor, fod llawer o sail i'ch ofnau am eich mam. Mae hi yn siarad yn bert ryfeddol."

SUSI.—"Gobeithio nad oes, Mr. Huws, ond mae gen i presentiment cas na fydd mam fyw yn hir. Fedr hi ddim dioddef profedigaethau na dal gwynt croes. Ond yr wyf i 'n meddwl fy mod i fy hun wedi dysgu cymaint a hyn yn ddiweddar, beth bynnag, sef na ddysges i ddim nes i mi ddysgu diodde', a diodde' yn ddistaw."

ENOC HUWS.—"Ddaru mi 'rioed wybod, Miss Trefor, eich bod wedi diodde' dim,—'roeddwn i bob amser yn meddwl eich bod yn berffaith iach."

SUSI.—"Ac felly yr ydw i. Ond yr ydych chi yn cofio gwaith Gurnal? Mi wn innau rywbeth am ddioddefiadau enaid. 'Rwyf wedi diodde' tipyn o'ch achos chi, Mr. Huws."

ENOC HUWS.—"O'm hachos i, Miss Trefor?

SUSI.—"Ie, o'ch hachos chi. Mi wn eich bod yn gwario llawer o arian yn barhaus ar waith Coed Madog, ac mai