Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nhad sydd yn eich perswadio i wneud hynny. Ac er eich bod yn gyfoethog, mae'n hawdd iawn i chi, mewn amser, wario y cwbl sy' gynnoch chi ar waith mine, ac heb gael dim yn ol, fel daru Hugh Bryan, druan, wneud, ac fel y mae Mr. Denman agos a gwneud. A fedra i ddim bod yn dawel, Mr. Huws, heb eich rhoi chi ar eich gwyliadwriaeth."

ENOC HUWS.—"Y mae arnaf ofn, Miss Trefor, eich bod mewn tymer brudd heno, a'ch bod wedi anghofio y newydd a gawsom gan Sem Llwyd heno."

SUSI.—"Na, dydw i ddim wedi anghofio newydd Sem Llwyd; ac os ydio'n wir, 'rwyf yn llawenhau er mwyn fy nhad a chwithau a Mr. Denman. Ond peidiwch rhoi llawer o bwys arno,—'rwyf wedi clywed llawer o newyddion tebyg, a dim byd yn dod ohonynt. Carwn wybod faint ydych wedi wario!"

ENOC HUWS.—"O, rhyw dri chant o bunnau, 'rwy'n meddwl."

SUSI.—"Gwarchod pawb, 'roeddwn yn ofni hynny."

ENOC HUWS.—"Ond dydw i ddim ond un o dri, Miss Trefor."

SUSI.—"Ie, yr un o'r tri sydd yn morol am yr arian,—y chi, Mr. Huws, ydi'r banc."

ENOC HUWS.—"Nid wyf yn dallt eich meddwl, Miss Trefor."

SUSI.—"Fy meddwl ydi hyn, Mr. Huws, ac y mae'n rhaid i mi gael ei ddweyd, fedra i ddim bod yn dawel fy nghydwybod heb ei ddweyd, mai chwi sydd yn ffeindio'r arian, ac ma nhad sydd yn 'u gwario nhw, achos 'does gan 'y nhad yr un bunt o eiddo'i hun i'w gwario."

ENOC HUWS.—"'Rydach chi'n smalio, Miss Trefor."

SUSI." Fum i erioed yn fwy difrifol, Mr. Huws. Yr oeddwn yn ofni o hyd eich bod yn credu ein bod yn gyfoethog, ond y gwir ydyw ein bod yn dlawd, ac yn dlawd iawn, a dyna, mi wn, sydd yn lladd mam. A chyda golwg ar newydd Sem Llwyd, 'does gen i ond gobeithio er eich mwyn chi ei fod yn wir. Ond dydw i'n rhoi dim pwys ar yr hyn a ddywed Sem. Mae o wedi dweyd llawer o bethau tebyg o'r blaen, a'r cwbl yn troi'n ddim byd."

ENOC HUWS.—"Miss Trefor, yr ydach chi'n jokio,—dydach chi ddim yn meddwl deyd wrtha i nad ydi'ch tad yn dda arno?"