Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SUSI." Ewch ymlaen, Mr. Huws, 'does neb efo mam ond Kit, a mi fydd yn galw am danaf yn union."

ENOC HUWS.—"Wel, byddai yn anodd gennyf gredu nad ydach yn gwybod fy meddwl cyn i mi ei ddeyd. 'Does dim posib nad ydach chi wedi deall ar fy ymddygiad ers llawer o amser bellach fy mod yn coleddu rhyw deimlad tuag atoch nad ydyw cyfeillgarwch yn enw arno. Mi wn ei fod yn rhyfyg ynnof, ond 'dallai ddim wrtho. Yr wyf yn eich caru, Miss Trefor, ac yn eich caru mor fawr,— (yn mynd ar ei liniau o'i blaen),—fel nad allaf ddychmygu fod yn bosibl caru yn fwy——."

CAPTEN TREFOR (o'r golwg).—"Susi, lle'r ydach chi, ngeneth i, (yn dyfod ymlaen), mae'ch mam eich eisieu, Susi. (Yn canfod ENOC HUWS). Holo, Mr. Huws, 'roeddwn yn meddwl eich bod wedi mynd adref ers meityn. Ond pobl ifainc yw pobl ifainc, syr, o hyd. 'Rydw innau yn cofio'r amser, syr, ha, ha, ha, ha! Aroswch, Mr. Huws, hidia i ddim byd am ddod i'ch hebrwng gartref, 'rwyf eisieu tipyn o fresh air."

[Y LLEN YN DISGYN].

GOLYGFA 3.— YSTAFELL YN NHYNYRARDD.

(Y CAPTEN yn eistedd yn y gadair freichiau, SUSI yn dod i mewn).

SUSI.—"Nhad, mae gen i eisio deyd rhywbeth wrthoch chi, 'newch chi ddim digio 'newch chi?"

CAPTEN TREFOR.—"Digio wrthoch chi, fy ngeneth fach, am ba beth y gwnawn i ddigio wrthoch? "

SUSI.—"Mi obeithiaf nad ydw i wedi gwneud dim drwg,ac heb i mi gwmpasu dim,—yr wyf wedi addaw priodi Enoc Huws."

CAPTEN TREFOR (ennyd o ddistawrwydd).—"Duw a'ch bendithio i'ch dau! Pa bryd y daru i chi, Susi, roi eich addewid iddo?

SUSI.—"Mae rhai wythnose os nad misoedd erbyn hyn."