CAPTEN TREFOR.—"Hym. Nid wyf yn dweyd dim yn erbyn y peth,—'does gennyf yr un gwrthwynebiad pwysig i chwi briodi Mr. Huws. Ond mewn ffordd o siarad, Susi, mi fuaswn yn disgwyl i chwi ymgynghori a'ch tad cyn mentro i gytundeb mor ddifrifol. Ond na hidiwch am hynny."
SUSI.—"Yr oeddwn ar fai, nhad, a mae'n ddrwg gen i na faswn wedi siarad â chwi yn gyntaf. Ond y mae'r peth wedi ei wneud, a gobeithio y gwnewch chi faddeu i mi, ac na wnewch chi ddim dangos dim gwrthwynebiad."
CAPTEN TREFOR.— "Nid oes gennyf ond dweyd, fy ngeneth, fel y dywedais o'r blaen, Duw a'ch bendithio i'ch dau. Ond mewn ffordd o siarad, mi welais yr amser, do, mi welais yr amser, y buasai yn arw gennyf i neb, gan nad pwy a fuasai, gael addewid gan ferch,—unig ferch, Capten Trefor, heb yn gyntaf ymliw, ac ymliw drachefn â'i thad. Ond, nid Capten Trefor yw Capten Trefor erbyn hyn, mae pawb, ysywaeth, yn gwybod hynny, a'i ferch ei hun heb fod yn eithriad, ac wedi ymddwyn felly. Ond y mae Mr. Huws yn ffortunus."
SUSI.—"Nhad, ddaru mi ddim bwriadu eich brifo wrth beidio ymgynghori a chi, a mae'ch geiriau yn fy lladd. Ac hyd yn oed yn awr, os byddwch bob amser fel yr ydach heno, yn sobr, yn garedig a mwyn, mi alwaf fy addewid yn ol, os ydach chi'n deyd wrtho i am wneud hynny."
CAPTEN TREFOR.—"Beth, merch Capten Trefor yn torri ei haddewid? Na, fy ngeneth anwyl, pe buasech wedi rhoddi eich addewid i'r meinar tlotaf sydd yn darn lwgu yng Nghoed Madog, mi fuaswn yn eich gorfodi i'w chyflawni, os buasai hynny o fewn fy ngallu. Nid yw torri addewid yn hanes Capten Trefor nac yn deilwng o prestige y teulu."
SUSI.—"'Dydw i ddim yn bwriadu eich gadael, nhad, mae hynny yn ddealledig rhwng Mr. Huws a minnau. Cewch yr un bywioliaeth a ninnau, a mi wn y gellwch ymddiried ar garedigrwydd Mr. Huws. Yn wir, yr wyf yn ystyried mai fi ac nid Mr. Huws sydd yn lwcus."
CAPTEN TREFOR.—"Yr wyf yn meddwl, Susi, os try pethau allan fel yr wyf yn disgwyl, na bydd raid i mi ddibynnu ar garedigrwydd neb pwy bynnag. Ar yr un pryd, peidiwch a meddwl fy mod yn diystyrru eich ymlyniad