Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drama Enoc Huws.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthyf. Ac am Mr. Huws, yr wyf yn ei adnabod yn lled dda, ac ni fydd yn ddrwg gennyf edrych arno fel mab yng nghyfraith. Beth ydyw y rheswm, Susi, na fuasai Mr. Huws yma heno? Oblegid ar ol yr ymddiddan sydd wedi cymeryd lle heno, yr wyf mewn ffordd o siarad, yn teimlo rhyw fath o hiraeth am ei weled."

SUSI.—"Yr oedd yn deyd fod rhywbeth yn galw am dano, ac nad allai ddod yma heno. Ond fe ddaw nos yfory, gan fod y briodas i gymeryd lle yr wythnos nesaf."

CAPTEN TREFOR.—"Wel, er fod yn chwith gennyf feddwl, 'does gennyf ond dweyd,— Duw a'ch bendithio. (SUSI yn mynd allan, y CAPTEN yn siarad âg ef ei hunan). Mi ddwedaf wrtho yfory mai oferedd ydyw iddo ef a minnau wario ychwaneg o arian ar Goed Madog. Fy nyledswydd fel dyn gonest ydyw dweyd wrtho; 'does yno fwy o olwg am blwm nag sydd yng nghas y cloc yma. Mae'n dda gan 'y nghalon i fod pethau wedi diweddu mor dda. Ond nid yw hyn ond prawf arall fy mod yn adnabod dynion yn weddol,—mi wyddwn ers blynyddoedd fod gan Mr. Huws feddwl o Susi, a diolch i Dduw ei bod mor lwcus. Yr oeddwn yn dechreu pryderu beth a ddeuai o honi, druan."

[Y LLEN YN DISGYN].

GOLYGFA 4.— Y CAPEL.

(Y GWEINIDOG i fewn yn barod, daw y GWAHODDEDIGION i fewn a chymerant eu lle, yna y PRIODFAB a'i WAS, ac yn ddiweddaf oll daw CAPTEN TREFOR a MISS. TREFOR yn pwyso ar ei fraich. Yna saif y PRIODFAB a'r BRIODFERCH o flaen y GWEINIDOG).

GWEINIDOG.—"Yr ydym yn cyfarfod ym mhresenoldeb Duw i uno y ddau berson hyn mewn priodas, yn ol arfer gyffredinol Eglwys Crist a chyfraith ein gwlad; i argraffu ar eu meddyliau arwyddocad a chysegredigrwydd y rhwymyn priodasol, ac i ddeisyf bendith ein Duw a'n Tad ar eu rhan. Os gŵyr neb, gan hynny, am unrhyw achos cyfiawn neu reswm digonol fel na ellir yn