gyfreithlawn uno y ddau hyn mewn priodas, dyweded yr awr hon, neu bydded ddistaw am byth." (Cwyd hen wr, gwyn ei wallt a'i farf, a chrum ei war, o blith y gwyddfodolion, a dywed),—
AMERICANWR.—"Mi wn i am achos cyfiawn!" (Yr holl wyddfodolion yn codi ar eu traed mewn cynnwurf a chyffro mawr, ac yn troi i edrych ar y gŵr).
GWEINIDOG.—"Beth ydyw ystyr hyn, syr?"
AMERICANWR.—"Mi ddywedaf i chwi, syr. Cymro ydwyf, fel y gwelwch. Gadewais Gymru flynyddoedd lawer yn ol. Gyrrwyd fi o'r wlad hon gan amgylchiadau profedigaethus. Nid oeddwn yn dlawd, ystyrrid fi dipyn yn gefnog. Yr oedd gennyf un ferch, ac mi gredaf nad oedd geneth brydferthach a mwy rhinweddol yn y gymdogaeth. (Yn tynnu ei napcyn ac yn sychu ei lygaid). Esgusodwch fi, syr, y mae'r amser yn dod yn fyw i fy meddwl. Ar ol afiechyd byrr, bu farw fy ngwraig. Yr oedd hyn yn ergyd ofnadwy i mi,—teimlwn fy mod yn mynd yn fwy unig bob dydd. Ond yr oedd gennyf fy merch yr hon oedd yn fwy o werth na'r byd. Yr oedd gennyf fusnes lled fawr, a chennyf ŵr ieuanc medrus yn edrych ar ei hol, pan oeddwn i, oherwydd profedigaethau, yn analluog i dalu nemawr sylw i fy amgylchiadau. Ymhen amser, deuais ataf fy hun, ac mi ddechreuais edrych i mewn i fy llyfrau, a gwelais fod y gŵr ieuanc wedi fy nhwyllo o dri chant o bunnau! Deallodd yntau fy mod wedi darganfod y twyll, a phan wnes ymholiad am dano, cefais ei fod wedi gadael y wlad. Ond nid dyna'r oll; ceisiwch ddychmygu fy nheimladau pan ddeallais nad digon gan y dyhiryn oedd lladrata tri chant o bunnau oddi arnaf, ond ei fod hefyd wedi twyllo a darostwng fy merch. Yr oedd ŵyr bach wedi ei eni i mi cyn i mi wybod na drwgdybio dim. Yn yr amgylchiad pruddaidd hwn, bu farw fy anwyl ferch. Am beth amser, yr oeddwn fel dyn gwallgof, ac yn fy ngwallgofrwydd, gwerthais bopeth oedd ar fy elw. Wedi rhoi y plentyn dan ofal rhyw hen wreigan, a rhoi rhywbeth iddi am ei thrafferth,—dim chwarter digon,—aethum i'r America. Wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn y wlad honno, nid oeddwn yn hapus, penderfynais ddychwelyd i Gymru i edrych am fy ŵyr, os oedd o'n fyw. Nid oeddwn wedi