dychmygu nac yn dymuno dod o hyd i'w dad. (CAPTEN TREFOR yn crynnu ac mewn cyffro mawr). Credwn y buasai y diafol wedi gwneud pac o hono ef ers talwm, oblegid mi a'i rhoddes i'w ofal cyn mynd o'r wlad. Ond y mae yn hir iawn yn ei nol. (Gan bwyntio at ENOC HUWS), Y chwi, Enoc Huws, yw fy ŵyr, a'ch tad yw y dyn, os teilwng o'r enw dyn,—sydd yn galw ei hun yn Capten Trefor. (Yr holl gwmni megis wedi eu parlysu). Nid dyna yw ei enw bedydd. Ei wir enw ydyw Enoc Huws, ac ar ei enw ef y galwyd chwithau gan yr hen Mrs. Amos. Adwaenais ef y noson gyntaf y daethum i'r gymdogaeth. Ie, ac y mae'n ddrwg gennyf ddweyd, un o'r scoundrels gwaethaf ar wyneb y ddaear yw eich tad chwi eich dau. (MISS TREFOR yn syrthio mewn llewyg i freichiau ENOC HUWS). Mae hyn mi wn yn ergyd ofnadwy i chwi, er fy mod i yn edrych arno fel peth hynod ragluniaethol i mi ddyfod yma i atal brawd a chwaer rhag priodi. Ac oni bai am danoch chwi a'i ferch brydferth, mi rhown o'n ddigon sâff cyn nos yfory, y dyhiryn melldigedig!"
GWEINIDOG.—"Ai gwir hyn, Capten Trefor?"
CAPTEN TREFOR.—"Ie, myn" (Yn rhoddi cam ymlaen, yn tynnu "pistol" o boced ei gôt, ac yn saethu ei hun, yn syrthio ar ei gefn i'r llawr yn farw).
GWEINIDOG.—"Gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi!"
[Y LLEN YN DISGYN].
Y DIWEDD.