Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Abram Jones gael ei droi i ffwrdd. Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl. Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer. Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde. Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir."

(Enter Marged Pitars).

MARGED PITARS,—"Sut yr ydach chi, Mari Lewis?"

MARI LEWIS,—"Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir. 'Steddwch i lawr."

MARGED PITARS,—"Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma. Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle. Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd—"

MARI LEWIS,—"Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?"

MARGED PITARS,—"Dim; ond fod yn hen bryd i rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y gwr acw i beidio dweyd yr un gair, nac i wneyd ei hun yn amlwg mewn ffordd yn y byd."

MARI LEWIS,—"Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i Wmphre, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd. Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd."

MARGED PITARS,—"Gobeithio na chollith Wmphra mo'i waith, beth bynnag. Rhaid i mi fynd. Nos da."

MARI LEWIS,—"Nos da, a diolch i chi am alw."

(Exit MARGED PITARS).
(Enter BOB).

BOB,—"Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?"

MARI LEWIS,—"Do, machgen i; ond wyt ti yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd? Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o? Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones,