Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MARI LEWIS,—"Naddo; ond mae eisio i ti ladd yr hen ddyn."

WIL BRYAN,—"Pwy ydach chi'n feddwl, Mari Lewis? Ai y gaffer acw? Na na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law. Be ddoi o hono i? Mi fyddwn wedi llwgu."

MARI LEWIS,—"Nage, William, nid dy dad yr ydw i'n feddwl, ond yr 'Hen Ddyn' sydd yn dy galon di."

WIL BRYAN,—"'Does yma'r un, mi gymra fy llw."

MARI LEWIS,—"Oes, William bach, ac mi wyddost o'r gore mai yr Hen Ddyn,'—pechod,—ydw i'n feddwl."

WIL BRYAN,—"O! yr ydw i'n y'ch dallt chi 'rwan. Pam na siaradwch yn blaen, Mari Lewis? Ond dydi pechod yn y'n c'lonne ni i gyd, medde'r hen——y nhad acw."

MARI LEWIS,—" Ydi, machgen i, ac mae o'n dwad allan yn dy ben di hefo'r Q.P.' gwirion yna. Yr ydw i'n synnu fod dy dad yn gadael i ti droi dy wallt oddiar dy dalcen fel ene, a synnwn i ddim nad wyt ti'n mynd i edrach arnat dy hunan yn y glass bob dydd i borthi dy falchder. Diolch na fu yr un looking glass 'rioed yn ein teulu ni nes i Bob ddod ag un yma; a mi fase'n dda gan y nghalon i bydase hwnnw 'rioed wedi dwad dros y rhiniog. Mi fydde mam yn deyd fod pobl, wrth edrach i'r glass, yn gweld y gwr drwg, ac mi greda i hynny yn hawdd. Wn i ddim be' ddaw o'r bobl ifinc yma sydd yn gwneyd cymaint o shapri o'u gwalltie a'u dillad,—(y cloc yn taro un—ar—ddeg; yn edrych at y cloc).—Mae hi yn un—ar—ddeg o'r golch, a rhaid i mi dendio, ne mi ddaw Bob adre' cyn y bydd genna i damad yn barod iddo fo. Mae yn rhaid iddo gael rhyw amheuthyn. Be' na i iddo fo, Rhys?"

RHYS,—"Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans."

MARI LEWIS,—"Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo. Mae nhw yn deyd os caiff rhwfun fydd newydd ddwad o'r jail fwyd rhy drwm, yr aiff o'n sâl. Yr ydw i'n meddwl na cheiff o ddim byd gwell na phaned o de a chacen. Os rhedi di i Siop—[1] i nol gwerth tair ceiniog o'r peilliad gore, dimeiwerth o gapten soda, a chwarter o gyrans, fydda i dro yn 'i gneyd hi."

(Exit RHYS, wedi ail ddweyd ei neges).

  1. (Gellir enwi siop rhywun yn yr ardal lle y perfformir Rhys Lewis.")