Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi fydda i'n wastad yn magu dau, achos mae nhw yn dwad yn 'u blaene yn well o lawer. Fydda i byth yn rhoi India Mel iddyn nhw, welwch chi, achos mae'r bacyn pan rowch chi o o flaen y tân, yn mynd yn llymed cyn bod yn ddigon. Tatws a blawd haidd ydi'r stwff gore i besgi mochyn, os ydach chi am facyn da; a berwi dipyn o ddanal poethion weithie iddyn nhw. 'Does dim byd gwell i fochyn pan fydd o wedi colli 'i stumog na berwi penogyn coch yn 'i fwyd o. Pa faeth sydd mewn soeg i fochyn? Dim yt ol! Wyddoch chi be, Mari, fytwn i byth facyn bydae raid i mi brynnu bacyn y 'Merica ene. Mae nhw'n deyd fod moch yn y Merica yn byta blacks fydd wedi hapno marw yn y coed, a mi greda i hynny yn hawdd."

BARBARA,—"Ewch a bwyd i'r ieir, Tomos."

(Ceiliog yn canu,—Dynwareder ef).

TOMOS,—"Hylo, cobyn wyt ti ene? Dacw chi geiliog, Mari; bydase'r bluen wen acw heb fod yn 'i gynffon o, mi fydde yn pure giam! Mi weles yr amser cyn i mi ddwad i'r seiat, y baswn i'n torri'i grib o. Tydw i ddim yn ffeindio fod yr ieir giam yma yn rhyw helynt o ddydwrs, ond just bod 'u wye nhw'n fwy rich. Ydi'r bwyd yn barod, Barbara?"

BARBARA,—" Ydi, dowch at y bwrdd."

Tomos (wedi eistedd wrth y bwrdd),—"Ho! pethe yn talu yn riol ydi fowls, Mari, os can nhw 'u ffidio yn dda. A welsoch chi 'rioed mor ffond yr ydach chi'n mynd o honyn nhw. Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam."

MARI LEWIS,—"Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag."

BARBARA,—"Dowch, tipyn o'r ham a'r wye 'ma, Mari Lewis."

TOMOS,—"Ia, wir! Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed."

MARI LEWIS,—"Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos."

TOMOS,—"Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality. Wn i ddim sut y mae pobol y trefydd yma yn mentro byta wye. Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain?"