Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MARI LEWIS,—"Na wni."

TOMOS,—"Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta. A dene oedd yn od, 'doeddan nhw'n meddwl dim byd at y peth,—'roeddan nhw yn gneyd hynny bob dydd! Wel, wfft i'w e'lonne nhw, meddwn inne."

(Ymgom gyffredin).

MARI LEWIS,—"Bobol bach! mae hi yn amser y capel!"

TOMOS,—"Wel ydi, tawn i byth o'r fan yma. Rhaid i ni hastio; rhaid i ti adel y llestri, Barbara."

(TOMOS yn codi).

[CURTAIN.]

AR Y FFORDD.

GOLYGFA 2. WIL BRYAN yn adrodd wrth RHYS LEWIS ei hanes yn glanhau y cloc, ac yn rhoddi cynghorion iddo ar bregethu.—JAMES yn hysbysu RHYS fod ei dad wedi marw.

RHYS,—"Dacw Wil Bryan yn dwad. Welodd o mona i. Mi drof yn f'ol. Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach. Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da. Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr. Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd,— paham yr wyf yn ei osgoi."

WIL BRYAN,—"Holo! yr hen fil blynyddoedd! sut sy ers cantoedd? 'Roeddwn i just a meddwl dy fod ti wedi mynd i'r nefoedd, ond y mod i yn credu na faset ti ddim yn mynd heb ddeyd goodbye wrth dy hen chum. Honour bright, 'rwan! Ydi'n ffaith dy fod di wedi cael diwygiad,