Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ne ymweliad, ne be mae nhw yn 'i alw fo? Wyst ti be? 'Rydw inne yn ddigon parod i fynd i'r nefoedd, ne' at y sowidiwrs, waeth gen i p'run, achos 'rydw i wedi glân flino gartref acw. Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug."

RHYS,—"Beth oedd yr helynt, Wil?"

WIL BRYAN,— "Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw? 'Roedd tipyn o natur colli yno fo yn ddiweddar,—a fault, by the way, not entirely unknown amongst other orders of superior creatures. Yr oeddwn i yn credu o hyd y medrwn i ei giwrio fo bydaswn i yn cael amser, er na fues i 'rioed o'r blaen yn trio glanhau cloc,—achos mi wyddost nad ydw i ddim yn un dwl at rywbeth felly. Wel i ti, mi aeth yr hen bobol i ffair Wrexham,—with strict injunctions that Will, in the meantime, should diligently apply himself to weighing and wrapping sugar, which occupation the said Will considered unworthy of his admitted abilities; and the said Will, following his more congenial inclination, betook himself to clock—cleaning, thinking that thereby he did not waste valuable time by putting the timekeeper to rights. Ond yr oedd hi yn fwy o job nag oeddwn i wedi feddwl, wel di; achos wrth 'i dynnu o yn dipia, yr oeddwn i yn gorfod gneyd notes o ble yr oedd pob darn yn dwad, ac i bwy 'roedd o yn perthyn. Ar ol i mi 'i lanhau o i gyd, a rhoi tipyn o fenyn ar bob olwyn, screw a bar,—'doedd ene ddim oil yn y ty,—'roedd hi wedi mynd ymhell i'r p'nawn, er i mi fod heb fy nghinio rhag colli amser, ac yr oedd hi yn hen bryd dechre ei roi o wrth 'i gilydd cyn i'r gaffer ddwad adre o'r ffair. So far good. Ond pan es i ati i roi yr hen wyth niwrnod yn 'i gilydd, ac i gonsyltio fy notes,—welaist ti 'rioed shwn beth,—roeddwn i'run fath a Mr. Brown, y person, yn ffilio dallt fy notes fy hun! Ond mi ddysges hyn, y dyle dyn sy'n mynd i lanhau clocie, 'run fath ag i bregethu, fedryd gneyd y job heb notes. Welest di 'rod'shwn helynt ges i. Ond rhaid i ti gofio y mod i yn labouring under great disadvantages, achos cyllell ac efel bedoli oedd y nhŵls i. 'Roeddwn i yn chwys diferol rhag ofn y base yr hen Daith y Pererin yn dwad adre o'r ffair cyn i mi roi yr hen gloc wrth 'i gilydd. However i ti, mi weithies fel black, a mi ces o wrth 'i gilydd rywsut. Ond yr oedd gen