Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Roeddwn i i un olwyn yn spâr, na wyddwn i yn y byd mawr lle 'roedd o'i fod, na be i neyd â fo, a mi rhois o yn y mhoced,—(yn dangos yr olwyn). Wel, iti, mi 'sodes yr hen wyth yn 'i le, a mi weindies o, a'r peth cynta naeth my nabs oedd taro i lawr hyd i'r gwaelod. Mi darodd filoedd ar filoedd, a mi 'roedd swn y gloch yn y mhen i wedi ngneyd i reit syn; ac 'roedd o'n gneyd ffasiwn row fel yr oeddwn i yn ofni i'r cymdogion feddwl fod merch y Plas yn mynd i'w phriodi! Ar ol iddo daro gymin a fedra fo, y peth nesa naeth my nabs oedd stopio yn stond. Wrth i mi ddal ati i bwtian y pendil yr oedd yr hen wyth yn mynd yn go lew, ond gynted y stopiwn i bwtian, mi stopie fynte fynd. A deyd y gwir ti, mi chwerthes nes oeddwn i yn rholio,—fedrwn i ddim peidio bydase rhwfun yn fy lladd i. So here endeth a true account of the clock—cleaning. But wait a bit. Toc i ti. fe ddaeth yr hen bererinion adre o'r ffair, a'r peth cynta naeth y mam oedd edrach be oedd y gloch. wedi trio gesio faint o'r gloch oedd hi, a rhoi'r bysedd yn o agos i'w lle, bygswn i. Ond fe spotiodd yr hen wraig fod yr hen gloc wedi sefyll, a medde hi,— "Be sy ar yr hen gloc yma, William?" Ydi o wedi stopio? medde finne. Ydi, debyg, er's dwyawr,' medde hithe, a mi roth bwt i'r pendil. Yr oeddwn just a marw eisio chwerthin. 'Be—sy—ar—yr—hen—gloc—yma?' medde'r hen wraig wedyn, a mi roth shegfa iddo fo, fel y gweles di rai yn trio deffro dyn meddw wedi cysgu ar ochr y ffordd. Er mwyn i mi gael esgus i chwerthin, ebe fi,—Yr ydw i'n mawr gredu, mam, fod cwlwm ar 'i berfedd o, run fath a hunter gwr y Plas, a bydd raid i ni ei saethu o neu 'i agor o.' Ond dyma'r forwyn i fewn, ac yn splitio'n syth mod i wedi bod drwy'r dydd yn glanhau yr hen wyth. Wel, weles di 'rod 'shwn row. Mi ath y mam yn yfflon, a'r gaffer yn gynddeiriog. Yr ydw i'n mawr gredu y base yr hen law yn leicio rhoi cweir i mi, ond mi wydde na fedra fo ddim. And Will went to his boots. Drannoeth mi ddaryn yru am Mr. Spruce, y watchmaker, i roi'r hen wyth niwrnod i fynd; ond mi wyddwn na fedre fo ddim, achos 'roedd un olwyn ym mhoced Wil, a mi gafodd Wil ei revenge. Give it up,' ebe'r hen fenspring. Ond pan gaiff y chap yma gefn yr hen bobol am chwe awr, mae o'n bound o neyd gwyrthiau ar yr hen wyth niwrnod. Wel, dyna fi wedi deyd fy helynt i ti. Ond honour bright, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni?"