Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bydaet ti'n mynd ar dy spri dim ond unwaith, mi dy stopien di i bregethu; ond bydae ti'n mynd y cybydd mwya yn y wlad, mi lowian di bregethu yr un fath. Old fellow, wyt ti ddim yn meddwl mod i'n rhoi cynghorion go lew i ti, a chysidro pwy ydw i? Does gan y Cyfarfod Misol mo'r courage i roi cynghorion fel 'rydw i wedi roi. Ond mi wela dy fod ar frys. Give us thy paw, and wire in, old boy."

(Exit WIL BRYAN). (Enter JAMES).

JAMES,—"Holo, Rhys! Sut yr wyt ti? Be? Nei di ddim yagwyd llaw efo mi?"

RHYS,—"F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno. Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon. Gadewch i mi basio."

JAMES,—"Be' sy arnat ti, fachgen? Be' wyt ti mor groes? Pam yr wyt ti yn fy nghashau i?"

RHYS,—"Pam, yn wir! Gwyddoch yn burion. Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo. Chi ddysgodd fy nhad i boachio. Chi a'i dysgodd i segura. Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch?"

JAMES,—"Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd."

RHYS,—"I ble? I'r Merica?"

JAMES,—"Na, i le cynhesach o lawer."

RHYS,—"Siaradwch yn eglur. Lle mae o?"

JAMES,—"Sut y medra i ddeyd wrthat ti? Fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad 'rwan; y cwbwl fedra i ddeyd ydi fod o wedi cicio'r bweed."

'RHYS,—"Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith?"

JAMES,— "Fu 'rioed well gwir. Mi yfodd ormod o wisci, a mi gafodd stroc,—(RHYS yn ceisio pasio), Aros! thales di ddim am y newydd eto."

(RHYS yn taflu darn o arian iddo, ac yn ymadael).

JAMES,—"Dau swllt! Ho! Dase'i le fo hefo Abel gen i, nid dau swllt faswn i yn fedru roi i mherthynasau."

(Exit JAMES).

[CURTAIN.]