Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHYS,—"Nage."

TOMOS,—"Iaith pwy, ynte?"

RHYS, "O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd."

TOMOS,—"Ieithoedd pobol wedi marw! Wel, be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu ieithoedd pobol wedi marw? Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed?"

RHYS,—"Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi, maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt."

TOMOS,—"Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. Wel, dywed i mi, prun ydi iaith y Blacks? Mae nhw yn dysgu honno?"

RHYS,—"Nag ydynt, yn y Coleg. Mae'r Missionaries yn mynd at y Blacks 'u hunain i ddysgu honno?"

TOMOS,—"Wel, ys clywes i a'm clustie ffasiwn beth. Gwneyd sport o hono' i wyt ti, Rhys, fel y bydde Bob dy frawd. Cymer di ofal. Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed?"

RHYS,— "Mathematics."

TOMOS,—"Mathew Matic! Mi glywes son am Ned Matic, ond wn i ddim byd am Mathew, tw bi shwar. Be ydi hwnnw, dywed?

RHYS,—"Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly."

TOMOS,—"Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. Be arall ma nhw yn 'i ddysgu ?

RHYS,—"Saesneg a Hanesiaeth."

TOMOS,—"Eitha peth. Mae Saesneg yn useful iawn y dyddie yma, a peth digon difyr ydi Hanesiaeth. James Pwlffordd ydi'r gore glywis i 'rioed am ddeyd stori. Pan fyddwn i yn arfer mynd i'r tafarne, mi fyddwn yn dotio ato fo, a 'does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na dipyn o hanes. Pan fydd Barbara a finne wedi anghofio'r bregeth i gyd, mi fydd gennom ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi deyd, yn bydd, Barbara?—(BARBARA yn nodio).—Tw bi shwar. Tydwi ddim yn gweld y stiwdents 'ma yn rw helynt am stori chwaith. Yr ydw i'n gweld William Hughes, Abercwmant, yn llawn top iddyn nhw.