Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hapus nes dy weld ar y metals yn d'ol. Yr ydan ni wedi trafaelio llawer efo'n gilydd, ond yr ydan ni wedi dwad i'r junction heno. Y fact o'r matter ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r Dear happy hours, that can return no more. Yr ydw i am 'i gloewi hi, a hwyrach na wela i monot ti byth eto, a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrth i mi ddeyd hynny, mi gymra fy llw. Glywes di am danom ni acw?

RHYS.—"Clywed be, Wil? Dydw i ddim yn dy ddallt di."

WIL BRYAN,—"Wel, mae hi yn 'U P' acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. Be ydi'r prospect? Liquidation by arrangement a starvation! Ac am hynny yr ydw i am 'i gloewi hi. I ble? Wn i ddim. Be fedra i neyd? There's the rub. Fy nyleit i, fel y gwyddost, oedd dreivio ceffyl, a doedd o ddim odds gen i prun ai dreivio llwyth o fara ai dreivio llwyth o ferched ifinc nawn i; ond wythnos i heddyw, fydd gan Hugh Bryan, Provision Dealer, yr un ceffyl i'w ddreivio! Wyddost ti be?—Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth."

RHYS,—"Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt! Sut y daeth pethau i hyn?"

WIL BRYAN,—"Rhy faith i fynd drostyn nhw, was. Y nhad yn rhy grasping,—mi drodd i speculatio. Fifty pounds a month, ddyn bach! Sut yr oedd yn bosib iddo ddal? Hwyrach y bydd pobol yn y ngweld i'n selfish wrth skidadlo, ond fedra i ddim dal y disgrace. A dyna Sus,—poor girl—fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. Mae'n lwc nad oes ene ddim byd definite rhyngom ni. Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru."

RHYS,—"'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil. Wnei di dderbyn un cyngor?

WIL BRYAN,"Beth ydi hynny, old fellow?'

RHYS,—"Treia newid dy ffordd o fyw."

WIL BRYAN,—"Fedra i ddim, Rhys. Yr oeddwn i wedi meddwl troi dalen newydd ar ol i mi gael fy fling, ond mi gymres ormod o fling. 'Rydw i'n ffaelio dwad yn f'ol. 'Rydw i past feeling, mae gen i ofn, 'does dim byd yn effeithio arna i. Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—' Had I but served my God,'—mi wyddost am y geirie."