Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TOMOS,—"Tw bi shwar! Bechgyn clen ryfeddol yden nhw; ond 'rydech chi'n debyg i'ch gilydd, yn od felly. Lle buost ti cy'd, dwad? Lle 'roeddat ti wrthi ddoe?"

RHYS,—"Trawsfynydd."

TOMOS,—"Trawsfynydd? Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd?"

RHYS.—Ië.

TOMOS,—TWw bi shwar! 'Roeddwn inne'n meddwl. Un garw ydi Morgan Llwyd. Mi fydda i'n wastad yn deyd, bydawn i'n hapno mynd i ryw drwbwl, mai Morgan Llwyd gymerwn. Glywsoch chi am y tro hwnnw yn Rhuthyn, Mr. Williams?"

WILLIAMS,—"Naddo wir, Mr. Bartley."

TOMOS,—"Naddo? Wel, mi ddeyda fo i chi,—mae o cyn wired a'r pader. Wel i chi, 'roedd ene ddyn, adeg y Seisus oedd hi, yn cael 'i dreial am ddwyn bacyn,—bacyn, dalltwch, a 'roedd pawb yn ofni y cawse fo 'i dransportio. 'Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddi arno, bacyn, cofiwch, wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio; a'r dyn, druan, wedi pluo Morgan Llwyd i'myddiffyn o. Wel i chi, 'roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a 'roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y man, mi ddoth tyrn Morgan Llwyd, a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynnodd iddo,—' Be' oedd o'n feddwl wrth facyn? 'be'r cigydd, Bacyn ydi 'nhorob,—neu mochyn wedi'i halltu a sychu.' 'Tw bi shwar,' ebe Morgan Llwyd; a mi alwodd y siopwr ymlaen, a mi 'fynnodd iddo fo, 'Oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn, a oedd o wedi halltu a sychu?' Nag oedd,' 'be'r siopwr. Ffals deitment,' 'be Morgan Llwyd; a mi 'nillodd y case yn syth! Un garw ydi Morgan Llwyd. Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan?

RHYS,—"Oes y mae, Tomos."

TOMOS,—" Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be', fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma; agor y ffenest yna, Rhys. Dydi o ryfedd yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd,—'does yma lwchyn o wynt. Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn room fechan fel hon,