Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHYS,— "Fydda i 'run dau funud."

(Ymneillduo am funud).

TOMOS,—"Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma. Ches di ddim bwyd?"

RHYS,—"Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd—y—fen."

TOMOS,—"Rhyd—y—fen? Lle mae fan honno, dywed? Ydi hi'n daith?

RHYS,—"Na, ty tafarn ydi Rhyd—y—fen, hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog."

TOMOS,—"Be, be? Ydyn nhw'n lowio i brygethwrs fynd i dyfarne yn y wlad ucha yma? Ond 'does dim harm yn y peth ynddo'i hun, yn ol y meddwli; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny."

(TOMOS yn tynnu y fowl a'r bacyn i RHYS).

RHYS,—"Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara."

TOMOS,—"Mae i ti groeso, machgen i,—(yn tanio ei getyn).—Mi gychwynna i, fechgyn."

RHYS,—"Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos."

TOMOS,—" Oes drwg am hynny? Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala?

RHYS,—"'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma."

WILLIAMS,—"Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley. Mae Rhys yn hynod o gysetlyd."

TOMOS,—"Hy—hy! a finne'n clwad mai rhai garw oeddach chi am smocio; ond bid a fynno am hynny, chwedl y dyn hwnnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn Mae gen i eisio gweld tri pheth, Green y Bala, y Llyn, a'r Gloch. 'Rydw i'n cychwyn."

(Exit TOMOS. Plant yn chwerthin oddi allan, a TOMOS i'w glywed yn dweyd,—"Welsoch chi erioed ddyn o'r blaen, blant?")

WILLIAMS (Wedi ymlâdd yn chwerthin),—"Rhys anwyl, dyma'r original mwya weles i 'rioed â'm llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen