Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gen i, ar ol i mi y'ch gweld chi, y mod i wedi rhoi hanner sofren i'r dyn bychan hwnnw fu'n casglu at i chi gael ysgol newydd. Dene un o'r dynion noblia, syr, weles i 'rioed a'm llygad,—faswn i byth yn blino gwrando arno fo. 'Roedd o'n deyd mai o'r Bala 'roeddan ni yn cael ceiliogod i ganu, a fydda i byth yn clywed y ceiliogod ifinc acw yn canu ar y buarth heb gofio am 'i air o. Os ddaru chi sylwi, syr, rhw nad ddigon rhyfedd fydd y ceiliogod ifinc yn 'i neyd am gryn bedwar mis, yn enwedig os na fydd ene hen geiliog i roi patrwm iddyn nhw. Ond waeth i chi prun, mae nhw yn dwad bob yn dipyn i diwnio yn nobyl. Yr ydw i yn cymyd dipyn o interest mewn fowls, syr,—mae Rhys yn gwybod, (cheers).—a'r cywion casa gen i ydi rheiny na wyddoch chi prun ai iâr ai ceiliog ydyn nhw. Os na fyddan nhw yn dangos yn o fuan be ydyn nhw, mi fydda yn torri'u penne nhw,—(cheers).—Wel, mae yn dda gen i o nghalon ych gweld chi mor gyfforddus, a gobeithio y gwnewch chi fadde i mi am gymyd cymin o'ch hamser chi,—(cheers)."

TOMOS (wrth WILLIAMS),—"Be ydi menin y cheers yma, Mr. Williams? Ddaru mi siarad yn o deidi?"

WILLIAMS,—"Campus."

ATHRAW,—" Wel, Mr. Bartley, yr ydw i'n gobeithio yn fawr y bydd i'r dynion ieuainc ddal ar eich cynghorion gwerthfawr, a'ch sylwadau pwrpasol. Y troion nesaf y bydd y students yn pregethu acw, cymerwch sylw manwl ohonynt,—a ydynt yn gwella. Os na fyddant yn dangos yn eglur pa un ai iâr neu geiliog ydynt, gadewch i ni gael gwybod, Mr. Bartley, er mwyn i ni gael torri eu penne nhw."

TOMOS,—"Tw bi shwar, syr. 'Roeddwn i wedi meddwl cael gweld yr ysgol pan oeddach chi wrthi. Mae cystal gen i a choron mod i wedi cael caniatad i ddod yma,—mi fydd gen i gymin mwy i ddeyd wrth Barbara pan a i adref. Diolch yn fawr iawn i chwi, syr, a ph'nawn da 'rwan."

(Exit TOMOS, RHYS, a WILLIAMS, TOMOS yn troi yn ol).

TOMOS," Begio'ch pardwn, syr, oes gynnoch chi ddim ffasiwn beth a matsien yn y'ch poced? Wn i ddim sut y dois i oddi cartre heb yr un."

ATHRAW (yn chwilio yn ei logell am un, gan fwynhau'r cymeriad gwreiddiol).

[CURTAIN.]