Tudalen:Drama Rhys Lewis.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond humbug cael lot o rooms, ond paid di a meddwl mai hard up ydw i, fel y ca i ddangos i ti toc. Dywed y gair,—te neu goffi ?"

RHYS,—"Te."

WIL BRYAN,—"Same here. Daset ti wedi dweyd coffi, does yma ddim yn ty. Does dim isio gwell gwraig na'r landlady yma, ond mae gen i ofn 'i bod hi yn go ffri hefo nhe i. Cyn mynd allan heddyw, mi rois i wybedyn yn y canister 'ma, a mi gawn weld ydi o yno 'rwan, edrych di yr ochr yma, a mi edrycha inna yr ochr yna. Wyt ti yna? 'Rwan. Gone! Dene ti certain proof. Ond arna i mae'r bai, hefyd. Mae'n debyg fod y wraig yn eitha gonest daswn i yn cloi y cwpwrdd. Draw your chair to the table. Mi wela fod yna un drawback,—'does yma ond un gwpan a sowser; ond am y tro, cymera di y gwpan, a mi gymera inne y sowser. Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys."

RHYS,—"Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi."

WIL BRYAN,—"Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre. Wel i ti, mi fu dipyn yn galed arna i tan ges i job i ddreivio cab. Mi weithies yn galed, a byw yn gynnil,—a deyd y gwir i it, mi es yn gybydd, ac yr oeddwn i yn cyfri mhres bob nos. Un nosweth, mi ges mod i yn werth £48, heblaw y ceffyl a'r cab, a mi brynnes chwarter o sausage i'm swper; ar ol y swper, yr oeddwn i yn teimlo rwsut yn hapus ac independent. Y sausage nath y job, 'rydw i'n meddwl. Mi ddechreuais fwmian canu, a be ddyliet ti oedd y dune? 'Yr hen flotyn du!' A dydw i ddim yn meddwl i neb 'blaw fi gael bendith wrth 'i chanu hi 'rioed. Pan ddois i at y geirie,—

'Pa sut mae hynt fy mam a'm tad?
Pa sut mae'r stad yn 'styried?

mi ges break-down, a mi ddoth hireth sobor arna i, a mi gries lond y mol. Doeddwn i ddim wedi 'sgrifennu at yr hen bobol er pan es i oddicartre; a wyddwn i ddim oeddan nhw yn cael bwyd, ne oeddan nhw'n fyw. This is not true to nature,' 'be fi, a mi gries spel wedyn, a mi es ati i'sgrifennu at y gaffer i ofyn oedd o yn fyw, sut yr oedd o'n dwad ymlaen, faint oedd amount 'i failure o? A mi rois y llythyr yn y post y noswaith honno. Yr oeddwn i ar