"O, Hywel, yr ydych yn garedig, ond nid ydych yn deall rheolau y Tylwyth Teg. Bydd yn rhaid i mi anfon rhai o'n Tylwyth ni atynt i ddweyd yr holl hanes, ac nis gallaf gelu nad wyf wedi bod yn ddiofal, ac wedi bod yn achos iddynt dorri un o arferion pennaf eu llys."
Edrychai Tylwyth y ddwy gadwen mor ofidus fel nad oedd yn syn gan Hywel ei weld yn syrthio i lawr a'i wyneb i'r gwellt fel pe wedi ei lethu gan dristwch. Ac ebai wrtho, gan ei gynorthwyo i godi i fyny,—
"Peidiwch a digaloni. Dowch, codwch ar eich traed. 'Rydach chwi wedi gwneud eich goreu. Mi ddof i'ch canlyn; 'rwyf yn sicr y gellwch fy helpu eto."
Cododd yntau gan edrych ychydig yn fwy siriol, ac meddai,—
"Mae'n dda gen i eich clywed yn deyd fy mod wedi gwneud fy ngoreu. Ond nis gallaf eich helpu fy hunan, ac felly af i chwilio am rai o fy nhylwyth. Rhyngom yr ydym yn sicr o fedru eich cynorthwyo. Ond gwell i chwi beidio dod gyda mi; gallaf gerdded gymaint yn gynt na chwi, ac ymwthio drwy leoedd bychain, a thrwy hynny arbed llawer o gerdded. Arhoswch yn y fan hyn am danaf, a chymerwch ofal rhag symud oddi yma, na chau eich llygaid am foment, rhag ofn i chwi gysgu ac i'r Tylwyth Chwim ddyrysu fy nghynllun eto. Dyma fi'n mynd; gwnewch bob ymdrech i gadw'n effro."
"Peidiwch pryderu," ebai Hywel, "mae cwsg ymhell iawn oddiwrthyf."
"Ymhell y byddo," ebai yntau, gan brysuro o'r golwg drwy y gwellt.