Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Sir Fôn oedd capel Llangristiolus. Nid oes mor 80 mlynedd er pan godwyd y cyntaf o honynt; ond rhyfedd fel y cynyddodd eu rhifedi mewn mor lleied o amser i nemawr lai na dau gant o nifer yn perthyn i'r Methodistiaid yn Ngwynedd, heblaw sydd gan enwadau ereill o grefyddwyr! Y mae amryw o honynt wedi eu helaethu er's blynyddoedd; a llawer wedi gorfod eu hail adeiladu; ïe, a rhai wedi eu trydydd adeiladu, oherwydd eu bod yn rhy fychain i gynwys y gwrandawyr. Mae yn rhesymol i farnu fod y gost yn fawr i ddwyn i ben nifer mor fawr o dai addoliad; er hyny nid wyf yn deall i neb gael eu beichio, na'u gofidio, wrth gario y gwaith yn mlaen; a hyny oherwydd fod y corph o Fethodistiaid mor lluosog; o chwe'cheiniog i swllt bob chwarter blwyddyn oddiwrth bob aelod a gliriai y ddyled yn esmwyth. (A pha hyd y bydd y balch a'r meddwyn yn treulio mwy ddengwaith ar eu melus chwantau?) A chan fod y tlodion, ïe, gannoedd o honynt, mor isel arnynt trwy y gwledydd, da os gall y rhai hyny hebgor ceiniog neu ddwy bob chwarter blwyddyn.

YMOF. Mae yn gof genyf i chwi grybwyll am yr ysgolion rhad a osodwyd i fyny trwy lafur ac ymdrech y Parchedig Griffith Jones, ac a gynaliwyd ar ol ei farwolaeth ef trwy haelioni Mrs. Bevan, o Lacharn, tra y bu hi byw; a'r modd y cafodd Gwynedd ddirfawr golled am danynt ddwy waith; y tro cyntaf trwy ymarweddiad annuwiol y golygwr a'r ysgolfeistriaid; ac iddynt eilwaith gael eu hadferu i ni gan y bendefiges rinweddol hono Mrs. Bevan; ond ar ol ei marwolaeth bu atalfa ar yr arian a adawodd ar ei hol tuag at eu cynal am ddeng mlynedd ar hugain; ac er i'r arian gael eu henill at yr ysgolion, er hyny y maent yn nwylaw rhyw rai, rhy debyg i'r ci yn y preseb, ni phrofai y gwair ei hun, ac ni feiddiai yr ŷch ei brofi ychwaith, mal y dywed y chwedl, fel nad oes dim o honynt yn cyrhaedd atom ni. Pa fodd y bu gan hyny i blant tlodion Gwynedd gael eu dysgu?

SYL. Cynaliwyd ysgolion y nos yn y tymhor gauaf tros lawer o flynyddoedd, yn aml ddwywaith yn yr wythnos. Yr oeddynt wedi dechreu yn y Deheudir cyn i ni yma glywed son am danynt. Y gyntaf yn Ngogledd Cymru, hyd y gwn i, a gynaliwyd yn Capel Curig, yn y flwyddyn 1767, i ddysgu i'r bobl ieuaingc ddarllen, pa rai na allent gael amser i ddyfod i'r ysgol y dydd. Nid hir y bu ein gwlad ar ol hyn heb golli yr ysgolion rhad yn llwyr: nid oedd wedi hyny ond naill ai ymdrechu i gadw ysgolion y nos, neu adael i'r plant tlodion fyned ymlaen, fel paganiaid, heb fedru llythyren ar lyfr. Ymdaenodd y rhai'n yn raddol trwy amryw o ardaloedd, a buont o fawr fendith i gannoedd; nid yn unig trwy ddysgu y plant a'r