Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

egwyddori yr ysgolheigion; fel y byddai iddynt hwy a'r rhai fyddai dan eu gofal ei drysori yn eu cof. Ond er i'r gŵr tra defnyddiol hwnw ein gadael, a gorphen ei yrfa mewn llawenydd, ac er ei fod wedi marw, y mae efe yn llafaru eto: ie, er i'r llusern oleu yma gael ei symud o'n mysg, eto cynyddu a llwyddo y mae yr ysgolion fwyfwy trwy y gwledydd. Mae llawer o filoedd o blant a phobl ieuaingc, ac amryw o hen bobl hefyd, yn ymgynull yn lluoedd bob Sabbath i gael eu dysgu, ac y mae yr athrawon yn ddiwyd ac yn ffyddlon yn eu gorchwyl. Os bydd rhieni y plant yn esgeuluso anfon y plant i'r ysgol, y mae rhai o'r athrawon mor garedig a myned o amgylch i ddeisyf arnynt eu hanfon i gael eu dysgu. Er mwyn iawn drefn ar yr ysgolion, y maent yn cael eu rhanu yn ddosparthiadau, ac athraw yn perthyn i bob dosparth, fel y gallo y plant bach, yr hen bobl, a phawb gael edrych atynt yn ofalus. Arferir gweddïo a chanu penill o salm neu hymn ar ddechreu a diwedd pob ysgol. Mae yr athrawon yn arfer cadw cyfarfod gyda'u gilydd yn achlysurol i hyfforddi y naill y llall i ddarllen yn gywir ac yn ddeallus, ac i gydolygu y moddion mwyaf tebygol i lwyddo yr ysgolion. Mae pob sir wedi ei rhanu yn ddosparthiadau, ac o ddeuddeg i bymtheg o ysgolion yn mhob dosparth. Cedwir cyfarfod bob chwech wythnos, neu bob dau fis yn rhai manau, lle y bydd rhyw nifer o athrawon o bob ysgol a fyddo. yn perthyn i'r dosparth hwnw yn dyfod ynghyd, a chyfrif yn cael ei roddi i'r ysgrifenydd o weithrediadau pob ysgol o fewn y cylch y maent yn perthyn iddo, megys nifer yr athrawon, rhifedi y plant, pa sawl un sydd yn dysgu darllen y Bibl, a pha nifer sydd yn y Testament, ac felly mewn llyfrau llai pa nifer o bennodau a ddysgwyd allan yn y chwech wythnos, pa sawl adnod a ddysgodd y rhai lleiaf o'r plant, a pha faint o'r Hyfforddwr a ddysgwyd allan; hefyd nifer y rhai sydd yn darllen ac yn silliadu, &c. Gofynir i ddau bregethwr fod yn mhob un o'r cyfarfodydd hyn i gateceisio dwy neu dair o ysgolion yr ardal, ac yn ganlynol pregethu yn y lle hwnw ddau o'r gloch brydnawn. Chwi welwch, fy nghyfaill, fod breintiau ieuengctyd yr oes bresennol yn tra rhagori ar ddim manteision crefyddol oedd yn ein dyddiau boreuol ni: nid oedd na rhieni nac ysgolfeistriaid yn son gair wrthym ni am y pechod dychrynllyd o halogi y Sabbath: y cerydd i gyd a fyddai arnom oedd ein bygwth yn dost am dreulio ein dillad, a dryllio ein hesgidiau. Gellir dywedyd am genedl y Cymry y dyddiau hyn, eu bod wedi eu derchafu mewn breintiau hyd y nefoedd, tu hwnt i bawb o drigolion y ddaear; ond och feddwl, os tynir lluaws i lawr o ganol breintiau mor ardderchog hyd yn uffern!. Ond er malais a chynddaredd y llew rhuadwy, a dwfn lygredigaeth calon dyn; ac er fod y cryf arfog yn cadw ei neuadd; eto pan