Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwyn yn mlaen yr achos goreu; yr oedd ei ddoniau yn fendithiol iawn, yn enwedig yn y cymdeithasau neillduol. Yr oedd ei weinidogaeth gyhoeddus hefyd yn dra derbyniol trwy yr holl eglwysi. O ran ei dymher naturiol nid oedd yn gysurus iddo ei hun nac i ereill chwaith, am ei fod yn ddarostyngedig i'r pruddglwyf. Ond er cael ei lwybr yn ddreiniog, diangodd yn y diwedd i'r orphwysfa lonydd.

Yn nesaf, sir Feirionydd. Ni chyrhaeddodd y diwygiad y dyddiau hyny, na thros hir amser, nemawr o'r wlad hon, ond y Bala a'i chyffiniau. Enynodd y tân sanctaidd yn rymus yn nghalonau rhyw ychydig nifer yn moreu y diwygiad yn y Bala: ac, yn mysg ereill, un Evan Moses oedd yn llewyrchu mewn lle tywyll; yr oedd ei dduwioldeb yn amlwg, ei gynghorion yn fendithiol, ei weddïau yn aml a gafaelgar, a'i zêl yn wresog dros achos Duw. Aeddfedodd fel tywysen lawn yn moreu ei oes i'r cynauaf mawr. Ei frawd, John Moses, nid oedd mor amlwg mewn crefydd, nac fel pregethwr, ag ef; eto mewn barn cariad, nid oes amheuaeth nad oedd efe yn ŵr duwiol. William Evans a fu yn llafurus ac yn ddiwyd i gyhoeddi yr efengyl ar hyd conglau tywyll y wlad, nes yr anhwyluswyd ei iechyd gan y parlys; a chan i hyn amharu ei gof a gwanhau ei synwyrau, bu farw felly megys tan radd o gwmwl. Dafydd Edward, o'r Bala, a lafuriodd yn ddiwyd iawn i ddefnyddio ei ddwy dalent yn ffyddlon; gellir dywedyd am dano yn well nag am lawer, yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth. John Ellis, o'r Abermaw; coffawyd am dano yn addas iawn yn y Drysorfa; ac y mae yr englyn a ddodwyd ar gareg ei fedd yn fyr ddarluniad o hono:

Dyn oedd â doniau addas,—a manwl,
Mwynaidd ei gymdeithas:
I Dduw Ion, a'i wiw ddinas,
Ymrôdd o'i wirfodd yn was.

Humphrey Edwards, o'r Bala, oedd hen filwr dewrwych yn myddin yr Arglwydd Iesu: yr oedd ei dŷ a'i galon yn gartrefle i achos Duw hyd ddiwedd ei ddyddiau; yr oedd ei yspryd yn iraidd; ei weddïau yn afaelgar; a chafodd atebiad lawer tro i'w erfyniadau gan Dduw. Huno yn dawel yn awr y mae yr hen bererin duwiol yn mynwent Llanycil, i aros iddo ef a'i gydfrodyr gael eu galw i'r wledd dragywyddol. Robert Jones, o Blas-y-drain, yr ychydig amser y bu ar y maes, a ymdrechodd hardd-deg ymdrech y ffydd; bu lafurus yn ei orchwyl yn anog pechaduriaid i ffoi i'r noddfa. Bu farw ynghanol ei ddyddiau. Am John Evans, o'r Bala, gellir dywedyd: Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Yr oedd efe yn gadarn yn athrawiaeth yr efengyl, yn gyfiawn yn ei fasnach, yn harddwch i'w broffes, ac yn gyfaill calon i achos Duw. Bu farw mewn henaint teg. Cewch ragor o'i hanes yn y Drysorfa newydd.