Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn nesaf, Sir Filint. John Owens, o'r Berthen gron, a'i frawd Humphrey Owens, a fuont lafurus, ffyddlawn, a defnyddiol yn eu dydd. Dyoddefasant lawer o groesau yn achos yr efengyl. Bu farw John Owens ar ei daith yn Llangurig, er mawr alar i'w deulu a'i gyfeillion. Eithr Humphrey Owens a fu byw rai blynyddoedd ar ol ei frawd, yn ddiwyd a defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd. Bu ynte farw cyn cyrhaedd henaint. James Bulkley, o Gaerwys, er nad oedd ei ddoniau yn helaeth, eto gwnaeth a allai dros achos yr efengyl. Robert Roberts, o'r Wyddgrug, a fu yn ymdrechgar yn ol ei ddawn i anog ei gyd-bechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Robert Price, o Blas Winter, er nad oedd ei wybodaeth na'i ddoniau yn helaeth yn mhethau yr efengyl, eto bu yn ymdrechgar a siriol gydag achos Duw hyd angeu. John Richards oedd ŵr o'r Deheudir; bu dros amser yn olygwr ar ysgolion Mrs. Bevan, ac yn pregethu yn achlysurol. Bu farw yn Rhuddlan.

Golygaf bellach ychydig ar amryw lefarwyr Sir Ddinbych, y rhai sydd wedi gadaw y maes, a diosg eu harfau. David Jones, o Adwy y clawdd, oedd wedi ei gymhwyso gan yr Arglwydd i waith y weinidogaeth; yr oedd ei ddoniau yn eglur a gwlithog, ei yspryd yn wrol a'i dymherau yn addfwyn, ac yn addas i wynebu pob math o wrandawyr: bu farw yn yr Wyddgrug. Robert Llwyd a fu yn golofn ddefnyddiol yn Nyffryn Clwyd; er ei fod yn alluog yn y byd, braidd y caid neb mwy gostyngedig a hunanymwadol nag efe; ni byddai yn teithio llawer, ond bod yn ddiwyd a llafurus yn ei ardal. John Jones, o Lansannan, a fu yn ymdrechgar yn y winllan; ond ni allodd wneuthur llawer gan ei afiechyd; diangodd adref yn nghanol ei ddyddiau, o afael ei holl ofidiau. Edward Parry, o Lansannan, a gychwynodd yn foreu tua thir y bywyd, ac a deithiodd yn siriol nes cael ei ddwyn i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Agorodd ei ddrws a'i galon i'r efengyl, bu yn lleteugar i weinidogion y gair dros faith amser; ac ni ddiffygiodd, yn ol y dawn a dderbyniodd, i fod yn gynorthwy i'r gwaith, bob rhan o hono. Soniais o'r blaen am John Richards o Fryniog, am hyny nid ymhelaethaf yn bresennol. John Thomas, gynt o Langwnlle, a wladychodd yn Sir Ddinbych yn niwedd ei oes. Yr oedd ef yn gadarn ac yn oleu yn athrawiaeth yr efengyl, a bu yn ddiwyd ac yn wrol faith amser yn y winllan: lled boethlyd oedd