Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei dymher weithiau; ond pwy sydd berffaith? Bu farw mawn gwth o oedran. Robert Evans, o Lanrwst; blodeuyn hardd yn ei ardal ydoedd ef, siriol a chyfeillgar, eglur a gwlithog ei ddoniau; cafodd ei alw yn ieuangc i gyhoeddi yr efengyl. Goddiweddodd angeu ef yn ddisymwth trwy gwympo o ben cerbyd wrth ddychwelyd o Lundain, er braw a galar i lawer. Ond os bydd rhai yn meddwl yn gyfyng am ei gyflwr yn wyneb y tro dychrynllyd hwn, cofied y cyfryw mai yr un ddamwain sydd i bawb. John Williams, o Henllan, bu raid iddo ef yn fuan ddiosg ei arfau i ymddangos yn y llŷs uchaf. Ar ei daith bu farw yn Aberffraw. John Davies, o Henllan, a ddechreuodd bregethu yn ei ardal, symudodd i Liverpool, ond ni bu yn gysurus nac mor ddefnyddiol yno a'r dysgwyliad. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth. Yn olaf, John Jones, o Lansantffraid; bu rhyw dalm o amser yn athrofa Lady Huntingdon. Ni bu yn weinidog i un eglwys neillduol, eithr ymroddodd i bregethu yn deithiol hyd y gallai gan afiechyd; ond ni bu yn bir heb orphen ei yrfa. Yr oedd ei dymher yn serchiadol, a'i ddoniau yn addas a defnyddiol.

Ychydig yn mhellach am yr offerynau a fu yn ffyddlon i gyhoeddi yr efengyl yn Ynys Fôn. Y cyntaf oedd Richard Thomas, yr hwn o achos ei afreolaeth a redodd i ddyled; ffodd i'r Deheudir, a bu yno nes enill digon i gyflawni â'i ofynwyr. Dygwyddodd iddo, yn y cyfamser, fyned i wrando pregeth; arddelodd yr Arglwydd y gair er ei wir droadigaeth; dychwelodd i Fôn, a thalodd ei ddyled, a dechreuodd gynghori ei gymydogion yn achos eu heneidiau. Wrth weled ei onestrwydd a'r arwyddion amlwg o wir gyfnewidiad yn ei fuchedd, tynerodd hyny feddyliau yr ardal i wrando arno yn ddiragfarn; bu yn fendithiol i lawer. Hugh Griffith, o Landdaniel, a ddaliwyd yn Lleyn i'w anfon yn sawdwr; ond diangodd o'u gafael i Fôn; glynodd wrth y gorchwyl o gynghori ei gyd-bechaduriaid tra fu byw: ond nid oedd mor dderbyniol gan rai oherwydd fod ei dymherau naturiol yn lled boethlyd. Nid oes neb yn amberffaith tu yma i'r bedd. Richard Jones, o Niwbwrch, a fu yn wresog yn ei gychwyniad, a chafodd ran o'r weinidogaeth; ond gwaelu a wnaeth yn ei hen ddyddiau, er hyny ni lwyr adawodd grefydd. William Roberts, o Amlwch, a fu yn was ufudd i'r eglwys yn ol ei ddawn, yn gariadus a derbyniol gan ei frodyr trwy yr holl eglwysi. Owen Thomas yn nyddiau ei ieuengctyd oedd nodedig am bob oferedd a direidi; cafodd ddwys argyhoeddiad; ac os oedd efe o'r blaen yn amlwg mewn annuwioldeb, rhagorodd wedi hyny ar lawer mewn duwioldeb. Galwyd ef, a rhyw nifer oedd yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir i Blas Lleugwy, lle yr oedd