Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd: a'r cwestiwn a ofynwyd iddynt oedd, pa un a wnaent ai gadael crefydd ai colli eu trigfanau; ond cyd-atebasant eu bod yn barnu fod dirmyg Crist yn fwy golud na thrysorau yr Aipht. Yr oedd un o honynt yn bur dlawd; methodd hwnw ymatal, ond llefodd allan: "Yn wir y mae Duw yn anfeidrol dda i mi, gogoniant byth, diolch iddo;" a dechreuodd lamu yn ei glocsiau yn nghanol eu parlwr boneddigaidd, fel y cloff yn mhorth y deml gynt. Synodd y boneddigion yn fawr ar yr olwg; ond eu troi allan o'u lleoedd a gafodd pob un o honynt. Am Owen Thomas, bu yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig yn nechreu y diwygiad: cafodd ddoniau addas i'r amseroedd tywyll hyny; yr oedd ei genadwri mor agos at eu deall, ac yn darlunio eu harferion llygredig mor eglur, pan na wyddent ddim y pryd hyny am na deddf nac efengyl. Evan Griffith, o'r Chwaen hen, oedd a'i ymddygiad yn addas i'r efengyl, yn llafurus a siriol yn ngwaith yr Arglwydd: ond ni ddiangodd yn gwbl oddiwrth yr amryfusedd oedd yn y wlad yn ei ddyddiau ef. William Evans, o'r Aberffraw, dros ei dymhor byr a fu ddiwyd ac egnïol yn ol y ddawn a dderbyniodd, yn ngwaith ei feistr; ac ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Michael Thomas, Garnen, oedd o dymher fywiog a charuaidd. Pan ymosododd at waith y weinidogaeth, dyryswyd ef yn fuan i gryn raddau gan y daliadau gwyrgam oedd yn y wlad y dyddiau hyny; ond adferwyd ef yn gyfangwbl oddiwrthynt, a bu o hyny allan, tra cynaliwyd ei iechyd, yn ddiwyd a ffyddlon; gorphenodd ei daith yn nghanol ei ddyddiau. Terfynaf am Sir Fôn, ond crybwyll gair am John Jones, o Fodynolwyn. Daeth o Sir Aberteifi i Sir Gaernarfon i gadw ysgol, lle y dechreuodd bregethu yr efengyl yn fywiog; symudodd i Fôn, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau yn wrol ac yn ddefnyddiol, heb ddiffygio yn y gwaith mwyaf gogoneddus: teithiodd trwy Gymru amryw weithiau, nes methodd gan henaint: gorphenodd ei yrfa er enill iddo ei hun, ond colled i ereill: mae ei le heb ei gwbl lenwi eto yn y wlad, yn enwedig yn y cyfarfodydd misol. Yn ddiweddaf Edward Jones, yn ddiweddar o Langefni; yr oedd ef yn ŵr duwiol a dichlynaidd, cyfarwydd iawn yn yr ysgrythyrau; bu yn ffyddlon ar ychydig, gosodwyd ef ar lawer.

Bellach, am Sir Gaernarfon. Pedwar o bregethwyr y wlad yma a orphenasent eu gyrfa cyn i mi eu gweled na'u clywed erioed. Robert Ellis, o'r Cwm glas, Llanberis; y mae ei hanes yn gwbl ddyeithr i mi. Evan Dafydd, Hafod y rhyg, oedd ŵr amlwg iawn mewn crefydd. Wedi cael ei ddeffroi am ei gyflwr, pan y cai ychydig o'i gymydogion ynghyd, darllenai y Bibl a llyfrau da, ereill iddynt, gan eu cynghori yn ddwys ddifrifol i