Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teithiodd hyd y gallodd ar hyd y gwledydd i bregethu yr efengyl: yr oedd ei ymddygiad yn synwyrol ac addas, yr hyn oedd yn tueddu yn gyffredin i'w garu a'i fawr barchu. Amharwyd ei iechyd gan radd o'r parlys, a bu flynyddau cyn ei farw heb allu symud cam o'i unfan. Ond diangodd o'i holl ofidiau.

Robert Roberts, o Glynog, oedd seren oleu yn ei dymhor byr. Ni ymddangosodd neb yn Sir Gaernarfon o'i fath yn yr oes bresenol; yr oedd ei dreiddiad i ddirgelion yr efengyl, ei ddoniau cyflawn, ei zêl wresog yn traddodi ei genadwri, pereidd-dra ei lais, yn nghyda'i gyfeillach addfwyn a siriol, yn ei ardderchogi nid yn unig i fod yn addurn i'w broffes, ond hefyd i fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Galar trwm a cholled ddirfawr oedd i'r fath lusern lewyrchus ddiffoddi yn nghanol nos mor dywyll. Cerydd gofidus arnom oedd cymeryd ymaith oddiwrthym ganwyll o'r canwyllbren aur, oedd yn cyneu mor ddysglaer. Gofidiwyd ef yn dost dros amryw o flynyddau gan ddolur y gareg, ond dyoddefodd ei gystudd yn amyneddgar. Bu farw yn ddeugain mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth bymtheng mlynedd.

Robert roes aml rybydd,—wiw lewyrch,
I lawer o wledydd:
Galar o un bwygilydd,
A thrallod ddarfod ei ddydd.

Robert Owen, o Dderwen uchaf, oedd yn ŵr ieuangc prydferth, wedi ei egwyddori yn fanwl yn y wir athrawiaeth: treuliodd enyd o'i amser yn athraw ysgol: yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur ac ysgrythyrol. Bu farw yn mlodau ei ddyddiau o'r darfodedigaeth.

Richard Williams, o Gaernarfon, ni chafodd ond braidd ymddangos i weinidogaethu yn gyhoeddus, na chymerwyd ef oddiwrthym i ffordd yr holl ddaear. Treuliodd ei yrfa grefyddol yn syml a diargyhoedd.

Thomas Evans, o'r Waun fawr, oedd o dymher addfwyn a chyfeillgar, gonest a diddichell; yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur a dealladwy, ac yn addas iawn i lawer o wrandawyr anwybodus y dyddiau hyny a fyddent yn arferol o'i wrandaw. Yr oedd ei gynydd mewn doniau a defnyddioldeb yn amlwg fel yr oedd yn aeddfedu i ogoniant. Gadawodd dystiolaeth eglur ar ei ol yn niwedd ei ddyddiau, ei bod yn dawel rhyngddo a Duw mewn Cyfryngwr. Bu farw o'r darfodedigaeth cyn cyrhaedd henaint. Evan Evans, ei fab, a addurnwyd yn ieuangc iawn â doniau ystwyth, goleu, a serchiadol. Tybiodd llawer y byddai yn ddefnyddiol fel lamp yn yr eglwys hir amser; ond cafodd pawb eu siomi: torwyd ef i lawr pan oedd ei lewyrch yn fwyaf dysglaer. Symudodd yn agos i Lanidloes